Adferiad economaidd a thwristiaeth fydd yn cael sylw’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion heddiw (dydd Mawrth, Mai 4).

Bydd yr arweinydd Jane Dodds yn teithio i Aberystwyth ac Aberaeron wrth i ymgyrch y blaid ar gyfer etholiadau’r Senedd ddydd Iau (Mai 6) dynnu tua’i therfyn.

Mae hi’n dweud bod pandemig Covid-19 “wedi bwrw ein cymunedau gwledig yn galed”.

“I’r rhai sy’n ddibynnol iawn ar dwristiaeth a’r sector lletygarwch, mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd,” meddai.

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi taflu goleuni ar yr heriau sylweddol yn ein heconomi wledig.

“O gysylltedd digidol i drafnidiaeth gwael, costau tai a’r heriau sy’n deillio o redeg busnesau bach, mae Cymru wledig yn wynebu cyfnod anodd i ddod.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n brwydro’r etholiad hwn ag addewidion i fuddsoddi i fynd i’r afael â chysylltedd band eang a ffonau symudol i helpu busnesau a’r rhai sy’n dewis gweithio o bell.”

‘Cymaint i’w gynnig’

Yn ôl Cadan ap Tomos, ymgeisydd y blaid yng Ngheredigion, “mae gan lefydd fel Ceredigion gymaint i’w gynnig i ymwelwyr”.

“Mae’r pandemig wei agor llygaid nifer i dwristiaeth gartref ond bydd nifer o’n busnesau’n dal i deimlo effeithiau’r pandemig am flynyddoedd i ddod,” meddai.

“Rydym yn cydnabod pa mor hanfodol yw busnesau bach, entrepreneuriaid a’r hunangyflogedig i’n hardal, a byddwn yn eu cefnogi nhw drwy sefydlu Premiwm Creu Swyddi a fydd yn gwneud yn iawn am gostau gwreiddiol recriwtio a hyfforddi ar gyfer busnesau sy’n ceisio tyfu.

“Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru hefyd yn helpu busnesau lleol dros y pum mlynedd nesaf drwy rewi cyfraddau busnes am bum mlynedd gan ddarparu biliau llai a sicrwydd.”