Mae dyn 46 oed o Gaerlŷr a gafodd ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ar yr M4 ger Caerdydd neithiwr, wedi’i ryddhau ar fechnïaeth.

Digwyddodd  y gwrthdrawiad rhwng craen, tancer a char Citroen C4 Piccaso am tua 5:45pm nos Fawrth rhwng cyffordd 32 a 33, ger Llantrisant.

Cafodd gyrrwr y craen anafiadau difrifol a bu farw yn y fan a’r lle.

Cafodd gyrrwr y tancer ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ond mae bellach wedi’i ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau’r heddlu’n parhau.

Cafodd dynes oedd yn gyrru’r car Citroen ei chludo i’r ysbyty, ond cafodd ei rhyddhau yn ddiweddarach.

 

Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod  1500407145.