Kirsty Williams
Fe fydd “miloedd yn colli allan” o gynlluniau’r Llywodraeth i gwtogi amseroedd aros ar gyfer triniaethau iechyd meddwl yng Nghymru, yn ôl Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru heddiw y byddan nhw’n haneru’r targed aros ar gyfer cleifion sy’n aros am driniaeth iechyd meddwl.

Bellach, dylai cleifion gael triniaeth o fewn 28 diwrnod wedi eu hasesiad, yn hytrach na’r targed o 56 diwrnod oedd mewn lle cyn hynny.

Ond, mae Kirsty Williams, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, wedi beirniadu’r cynllun gan ddweud nad yw’r targedau’n ystyried triniaethau i “filoedd o gleifion” a’u bod yn “sgubo’r broblem o dan y carped.”

Triniaethau eilradd’

Esboniodd Kirsty Williams fod y targedau wedi’u hanelu at driniaethau cynradd yn unig.

O ganlyniad, ni fydd cleifion sy’n aros am driniaethau eilradd yn gweld dim newid yn eu hamser aros.

Mae triniaethau eilradd yn cynnwys pobol ifanc sy’n cael eu cyfeirio at Wasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobol Ifanc (CAMHS). Fe fydd y targedau  ar gyfer y math yma o driniaethau yn aros ar 16 wythnos (112 diwrnod), yn ôl Kirsty Williams.

Triniaethau eilradd eraill yw therapïau seicolegol, tebyg i therapi iaith a lleferydd a chwnsela, ac ni fydd y rhain chwaith “yn elwa o’r cynllun”, yn ôl Kirsty Williams.

“Er bod y targedau yn edrych yn uchelgeisiol ar yr wyneb, mae Gweinidogion Llafur wedi penderfynu cadw plant a phobol ifanc i aros am wasanaethau arbenigol am dair gwaith cyn hired, a hynny cyn ystyried y ffaith nad yw’r targedau yn cael eu cyflawni hanner yr amser,” meddai.

‘Sgubo o dan y carped’

Fe gyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, y bydd disgwyl i’r byrddau iechyd ddangos eu cynnydd wrth gyflawni’r targed erbyn mis Ebrill nesaf.

Er hyn, teimlai Kirsty Williams y byddai hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar y byrddau iechyd, ac o ganlyniad fe fydden nhw’n “neilltuo triniaethau seicolegol hyd yn oed yn fwy.”

“Wrth beidio â chasglu data am amseroedd aros y triniaethau hollbwysig hyn, mae Gweinidogion Llafur yn sgubo’r broblem o dan y carped,” meddai.

“Mae’r blaid Lafur yn honni bod iechyd meddwl yn flaenoriaeth iddyn nhw, ond eto mae miloedd o bobol fregus, gan gynnwys cannoedd o bobol ifanc, yn cael eu neilltuo yn sgil eu cynlluniau newydd,” ychwanegodd.

Fe ddywedodd fod y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig am roi iechyd meddwl “yn flaenoriaeth ar flaen ac yng nghanol eu cynllun i’r Gwasanaeth Iechyd.”

Fe fydd Kirsty Williams yn cyflwyno’i chwestiynau ar y pwnc i’r Prif Weinidog yn ystod cyfarfod yn y Senedd y prynhawn yma.