Mae cerddwr wedi cael anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad a char yn Wrecsam neithiwr.
Roedd y dyn, sydd yn ei 40au, yn cerdded ar yr A525 Ffordd Rhuthun, Wrecsam pan fu mewn gwrthdrawiad a char Ford Fiesta gwyrdd tua 6.30yh nos Lun, 2 Tachwedd.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Maelor Wrecsam a’i drosglwyddo’n ddiweddarach i Ysbyty Stoke.
Dywed Heddlu Gogledd Cymru bod ganddo anafiadau sy’n bygwth ei fywyd.
Mae’r heddlu’n apelio am unrhyw dystion i’r gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod S168485.