Mae pryderon am ferch 14 oed sydd wedi mynd ar goll o’i chartref yn Llanelli.

Dydy Kaylee-Janne White ddim wedi cael ei gweld ers gadael ei chartref ddydd Sadwrn.

Mae llun o’r ferch wedi cael ei bostio ar wefannau cymdeithasol.

Mewn neges ar Facebook, dywedodd ei mam, Rhian Jones: “Unrhyw un wedi gweld fy merch Kaylee-janne White i fod gartref am 9 neithiwr dal ddim gartref yn poeni’n ofnadwy rhannwch 14 oed yn unig.”