Mae dyn wedi’i gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor, yn dilyn tân mewn carafan statig ym Môn.

Fe gafodd y frigad dân ei galw i’r safle ym mhentre’ Bryngwran toc wedi hanner nos.

Y gred ar hyn o bryd ydi fod y tân wedi’i gynnau gan offer ysmygu, ac erbyn i’r Gwasanaeth Tân ac Achub gyrraedd, roedd y fflamau wedi cynnau mewn sied ac adeilad cyfagos hefyd.