Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi enwi dau o’r tri oedolyn lleol a gafodd eu lladd mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar yn Sir Gonwy neithiwr.

Roedd Ross John Dickinson, 32 oed, ynghyd a dyn 29 oed sydd ddim wedi’i enwi eto, yn teithio mewn car Ford Fiesta gwyrdd, tra bod Paul Eric Gardner, 82 oed, yn teithio mewn Peugeot 208.

Mae dynes 59 oed yn parhau yn yr ysbyty, gydag anafiadau difrifol iawn.