Mae 452 o weithwyr y cwmni dur Caparo wedi’u rhoi ar y clwt heddiw – ac mae 29 o’r swyddi hynny yng Nghymru.

Fe ddaeth y datganiad trwy’r gweinyddwyr, Price Waterhouse Coopers, gan gadarnhau bod 17 o’r rheiny sy’n colli’u gwaith yng Nghymru yn gweithio ar safle’r cwmni yn Nhredegar, a’r 12 arall yn Wrecsam.

“Mae’n ddrwg gennym orfod gwneud y penderfyniadau hyn heddiw, ond mae rhagolygon masnachol y cwmni ar hyn o bryd yn anghynaladwy,” meddai Matt Hammond o PWC.

“Yr ydym yn diolch i gyn-aelodau o staff am eu gwasanaeth i gwmni CIP, ac fe fyddwn yn gweithio’n agos gyda hwy, a’u cynrychiolwyr er mwyn sicrhau fod taliadau diswyddo yn cael eu gweinyddu’n hwylus yn ystod y cyfnod anodd hwn.

“Fe fyddwn yn gweithio’n agos gyda chyrff a fydd yn eu cynorthwyo gyda chyfleoedd gwaith yn y dyfodol.”

Mae 1200 o weithwyr yn parhau i weithio i Gwmni CIP, ledled gwledydd Prydain.