Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, wedi cael ei gyhuddo o “eiriau gwag” ynghylch targed Llywodraeth Cymru i gael Miliwn o Siaradwyr Cymraeg, ar ôl i daflenni uniaith Saesneg gael eu dosbarthu yn ei etholaeth.

Daw sylwadau Rhys ab Owen, ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholiadau’r Senedd yng Ngorllewin Caerdydd ar ôl i rai etholwyr dderbyn taflenni ‘newyddion gan eich tîm Llafur lleol’ heb air o Gymraeg arnyn nhw.

Mae’n cyhuddo Llafur o “osod rhif ond anghofio dangos arweiniad” ar dargedau’n ymwneud â’r Gymraeg, gan alw ar Mark Drakeford i “gwrdd ag anghenion siaradwyr Cymraeg”.

‘Rhyfeddu’ at ‘dro gwael’

“Mae etholwyr wedi dod i gysylltiad â mi gan ddweud eu bod yn rhyfeddu bod Prif Weinidog Llafur yn gwneud tro gwael a chymaint o’i etholwyr  yng Ngorllewin Caerdydd,” meddai Rhys ab Owen.

“Dyma enghraifft arall eto fyth o eiriau gwag ynghylch miliwn o siaradwyr Cymraeg. Allwch chi ddim cyfiawnhau gosod targed ar gyfer 2050 ac yna cerdded ymaith oddi wrth gyfrifoldeb personol.

“Trwy ohebu’n ddwyieithog â’r trigolion, rwy’n gobeithio fy mod yn gallu normaleiddio’r defnydd o’r Gymraeg mewn ardal sydd mor gefnogol i’r iaith ac a welodd dwf anhygoel yn nifer y plant sy’n derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn neilltuo mwy o gyllid ac yn codi statws Prosiect 2050 a thrwy hynny ddylanwadu ar benderfyniadau polisi ar draws pob adran, sefydlu gofodau newydd i’r iaith Gymraeg (gan gynnwys gofod diwylliannol a mannau gwaith) er mwyn rhoi mwy o gyfle i bobl ddefnyddio’r iaith, a bydd yn dyblu’r cyllid i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn cyrraedd targed 2050.”

Ymateb

“Rydym yn ymwybodol fod fersiwn uniaith o daflen gan y Blaid Lafur leol wedi mynd allan mewn rhai ardaloedd yng Ngorllewin Caerdydd,” meddai llefarydd ar ran Llafur Cymru.

“Mae taflenni etholiad Mark, gan gynnwys y [taflenni] rhadbost yn ddwyieithog ac am barhau felly.”