Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb
Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, yn mynd gerbron Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan heddiw i roi tystiolaeth ar Fesur Drafft Cymru.

Mae’r cyfarfod heddiw yn rhan o’r broses o graffu ar y mesur, cyn iddo ddod yn ddeddf.

Grŵp o 11 o Aelodau Seneddol sydd ar y pwyllgor, sy’n cynnwys y cadeirydd, David Davies, AS Ceidwadol  Sir Fynwy, Liz Saville Roberts, AS Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd a Mark Williams, AS y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion.

Datganoli pwerau pellach

Cafodd y Mesur drafft ei gyhoeddi gan Stephen Crabb AS ddydd Mawrth diwethaf, ac mae’n canolbwyntio ar symud model datganoli yng Nghymru o fodel “rhoi pwerau” i fodel “cadw pwerau”.

Bydd hefyd yn datganoli pwerau pellach i Gymru o ran ynni, trafnidiaeth, yr amgylchedd ac etholiadau.

Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn edrych ar p’un ai yw’r model o “gadw” pwerau yn gadarn a sut y gall y Mesur gael ei wella os bydd angen.

Byddan nhw hefyd yn edrych i weld os yw’r Mesur drafft yn cyflawni polisïau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac os gallai geiriad y Mesur wella neu newid.

Mae’r tystion eraill yn cynnwys, Geth Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfansoddiadol a Chorfforaethol, Swyddfa Cymru a Sue Olley, Cynghorwr Cyfreithiol, Swyddfa Cymru.

Dadlau yn “anochel”

“Mae dadleuon ynghylch Mesur Drafft Cymru yn anochel, yn enwedig yng nghyd-destun y model cadw yn ôl, ac i ba raddau y bydd yn llwyddo i wireddu nod y Llywodraeth i sicrhau cytundeb clir fydd yn para,” meddai David Davies AS, cadeirydd y pwyllgor.

“Ein cyfrifoldeb ni fel Pwyllgor Materion Cymreig yw craffu’r Mesur Drafft yn drylwyr, tu hwnt i wahaniaethau pleidiol, ac i ystyried pa newidiadau sy’n angenrheidiol cyn cyflwyno’r ddeddfwriaeth o flaen y Senedd y flwyddyn nesaf.”

“Creu Cymru gryfach”

Wrth gyhoeddi Mesur Drafft Cymru, dywedodd Stephen Crabb y byddai’n “creu Cymru gryfach o fewn y DU.”

Ond mae llawer wedi beirniadu’r mesur, gan ddweud y bydd yn gwanhau pwerau’r Cynulliad, ac yn ôl Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, bydd yn “rhwystro pwerau pobl Cymru.”

Mae Plaid Cymru hefyd wedi beirniadu’r cynllun, gan ddweud ei fod yn “egwan” ac yn “sarhad.”

“Mae Mesur Drafft Cymru yn ei ffurf bresennol yn sarhad i’n gwlad,” meddai Leanne Wood, arweinydd y blaid.

Bydd Stephen Crabb yn rhoi tystiolaeth am 4 o’r gloch prynhawn ‘ma.