Mae priffordd yr A487 newydd ail-agor wedi damwain ym mhentre’ Llan-non ger Aberaeron.

Fe fu’r traffig yn aros yn stond am hanner awr dda tra bod criwiau achub, yr heddlu ac ambiwlansys yn ymateb i’r digwyddiad.

Fe fu gwrthdrawiad rhwng beth bynnag pedwar o geir yn y pentre’ sydd ar fin y brif ffordd rhwng Aberystwyth ac Aberteifi.

Mae’r ffordd bellach ar agor, ond mae’r traffig yn gorfod teithio’n araf trwy’r ardal.