Mae Heddlu Gwent sy’n ceisio dod o hyd i fam y maen nhw’n meddwl roddodd enedigaeth i fabi mewn coedwig ger Casnewydd, yn disgrifio’r achos fel un “anghyffredin iawn”.

Mae Heddlu Gwent wedi apelio ar i’r fam gysylltu gyda nhw ar frys, gan eu bod yn pryderu am ei hiechyd hi a’r babi.

Y gred ydi fod y fam wedi rhoi genedigaeth yn yr awyr agored, heb gymorth na gofal meddygol o gwbwl. Fe glywodd cerddwr oedd allan gyda’i gi, synau’r enedigaeth fore Llun diwetha’ (Hydref 19) cyn cysylltu gyda’r awdurdodau.

“Mae arbenigwyr fforensig o’r farn mai merch fach yw’r babi,” meddai Heddlu Gwent, “ond rydyn ni’n bryderus am y fam a’r babi, oherwydd fe allai’r ddwy fod angen cymorth meddygol ac emosiynol.

“Ein prif gonsyrn yw iechyd y fam a’r plentyn.”