Trystan Lewis
Mae ymgeisydd Plaid Cymru am sedd Cynulliad Aberconwy, wedi amlinellu’r problemau sy’n wynebu gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru.

Wrth annerch y gynhadledd yn Aberystwyth heddiw dywedodd Trystan Lewis: “Mae nifer o sialensau i’n gwasanaethau iechyd ni yn Aberconwy. Mae gennym boblogaeth sy’n heneiddio, a dydi hi’n gwneud dim synnwyr o gwbl i israddio gwasanaethau yn Ysbyty Llandudno.

“Caeodd Ysbyty Cymunedol Conwy, caeodd o theatr feddygol Llandudno – dros dro, medden nhw – ond pwy a wyr. Caeodd meddygfa Dolwyddelan, mae locums yn rhedeg Gyffin, ac mae fy meddygfa lleol i yn Neganwy ar werth.

“Wrth ymgyrchu mewn ardaloedd fel Gyffin a Dolwyddelan yr un pryderon sy’n codi drosodd a thro – meddygfeydd yn cau a phrinder meddygon,” meddai wedyn.

“Achubwyd Ysbyty Llandudno gan AC Plaid Cymru ar y pryd, Gareth Jones. Pe byddai Plaid Cymru mewn llywodraeth, byddai gennym ysgol feddygol yn y gogledd ym Mangor a 1000 yn fwy o feddygon, gan olygu y byddai anghenion meddygol pobl fel fy rhieni mewn dwylo da wrth iddyn nhw heneiddio.”