Bydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru’n cael 84 o gerbydau newydd yn sgil cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru heddiw (dydd Sul 14 Chwefror) eu bod yn buddsoddi £10.9 miliwn ychwanegol yn y gwasanaeth.

Mae’r arian ychwanegol yn ymateb i’r cynnydd yn y galw ar y gwasanaeth sydd wedi bod dros y flwyddyn ddiwethaf oherwydd Covid-19.

Yn ogystal, fe fydd £1.6 miliwn yn cael ei wario ar helaethu gofal dwys i gleifion difrifol wael sydd ar eu ffordd i’r Ysbyty. Fe fydd yr arian ychwanegol yn galluogi’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) i weithredu 24 awr 7 diwrnod yr wythnos, a hynny mewn partneriaeth â’r elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

“Bu cynnydd anferth yn y galwadau am gymorth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru oherwydd y Covid-19,” esboniodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

“Bydd y cyllid yn caniatáu i’r gwasanaeth uwchraddio ei ambiwlansys, er mwyn cynnig y gofal gorau bosibl i bobl Cymru.”

Wrth groesawu’r cyhoeddiad, meddai Chris Turley, cyfarwyddwr cyllid Gwasanaeth Ambiwlans Cymru:

“Mae’n rhaid cael ambiwlansys modern er mwyn inni allu parhau i ddarparu’r driniaeth a’r profiad gorau i’r claf. Mae’n bwysicach nag erioed cael cerbydau sy’n cadw olwynion ein gwasanaeth i droi, a bydd y cyllid hwn yn caniatáu inni gael cerbydau newydd yn lle’r hen rai wrth iddyn nhw ddechrau cyrraedd diwedd eu hoes.”