Mae perygl y gallai hyd at 68,000 o bobol gael eu colli oddi ar y gofrestr etholiadol, yn ôl Aelod Seneddol Llafur Blaenau Gwent, Nick Smith.
Daeth ei sylwadau wrth iddo arwain dadl yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mawrth.
Mae pryderon y gallai ddwywaith y nifer o bleidleiswyr gael eu colli mewn ardaloedd difreintiedig o’i gymharu ag ardaloedd mwy llewyrchus.
Bwriad y Ceidwadwyr yw gorfodi pobol i gofrestru fel unigolion yn hytrach nag fel teulu o dan yr un to.
Fel rhan o’u cynlluniau, fe allai’r ffiniau etholiadol hefyd gael eu newid, sy’n golygu y byddai effeithiau daearyddol y cynlluniau newydd yn fwy parhaol.
Yn ystod y ddadl, dywedodd: “Mae angen Senedd arnom sy’n cynrychioli ei holl etholwyr ym mhob etholaeth ond yn hytrach, roedd fy etholaeth i ym Mlaenau Gwent wedi colli 1,736 o bobol oddi ar y gofrestr erbyn yr etholiad cyffredinol.
“Rhagdybir y bydd Cymru’n colli 68,000 o bobol oddi ar y gofrestr ym mis Rhagfyr, ac mae hynny’n annerbyniol.”
Rhybuddiodd y gallai ymdrechion i leihau nifer y bobol sydd ar y gofrestr arwain at golli llais rhai o gymunedau tlotaf yn y gymdeithas.
Ychwanegodd: “I bobol yn y cymunedau hynny, mae goblygiadau syrthio oddi ar y gofrestr yn mynd ymhellach na cholli’r bleidlais.
“Mae’n golygu, er enghraifft, colli’r cyfle i gael credyd diogel a fforddadwy mewn meysydd lle gallai benthycwyr arian cyfrwys fod yn gweithredu.
“Mae’n golygu bod darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei chwtogi ymhellach, gan effetihio ar bopeth o lefydd mewn ysgolion i feddygon teulu.
“Fy mhrif bryder yw ei bod hi eisoes yn rhy hwyr i ddatrys y broblem honno cyn y dyddiad cau ym mis Rhagfyr.”
‘Tanseilio ein system bleidleisio’
Dywedodd y byddai cyfyngu ar hawliau myfyrwyr, rhentwyr preifat, pobol o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, pobol ddi-waith a gweithwyr ar gyflogau isel yn “tanseilio ein system bleidleisio”.
“Rhaid i’r Llywodraeth wrando. Rhaid iddyn nhw glywed pryderon go iawn a chaniatau mwy o bleidleiswyr ar y gofrestr; fel arall, maen nhw’n gwneud cam mawr â’n democratiaeth ni.”
Yn ystod y ddadl, rhybuddiodd Aelod Seneddol Llafur Caerffili, Wayne David na ddylid troi’r mater yn ddadl bleidiol.
“Gwn fod y Llywodraeth wedi penderfynu symud y dyddiad cyflwyno llawn ymlaen ond hyd yn oed yn y cyfnod hwyr hwn, rwy’n gofyn iddyn nhw gadw mewn cof yr egwyddor democrataidd y dylai ein dull etholiadol godi uwchlaw ystyriaethau gwleidyddiaeth bleidiol.
“Rydyn ni’n sôn am ddemocratiaeth y wlad hon a mentraf ddweud bod hynny’n bwysicach na buddiannau’r Blaid Lafur – neu, yn wir, fuddiannau’r Blaid Geidwadol. Rydyn ni’n sôn am ddemocratiaeth a dylai hynny fod yn fater i bawb.”
Ymateb Llywodraeth Prydain
Wrth ymateb i bryderon y Blaid Lafur, dywedodd John Penrose o Swyddfa’r Cabinet fod lleihau nifer y bobol sydd ar y gofrestr yn golygu mai pleidleiswyr ‘go iawn’ fyddai’n cael aros.
“O ystyried, dros gyfnod o 18 mis, y byddai’r bobol hynny wedi derbyn gohebiaeth naw gwaith – mwy mewn rhai achosion – mewn amryw ffyrdd, mae’r perygl fod pleidleiswyr go iawn yn colli’r hawl yn fach iawn.
“Y gwir amdani yw mai’r unig rai sydd ar ôl ar y gofrestr, fydd wedyn yn cael eu dileu, yw’r rhai nad ydyn nhw yno ragor, nid pleidleiswyr go iawn.
“Gobeithio y gallwn ni i gyd ddeall y gwahaniaeth hanfodol hwnnw.”
Ychwanegodd fod “cofrestr lân… yn tanlinellu iachusrwydd ein democratiaeth”.