Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf
Mae’r orsaf bŵer niwclear gyntaf yng ngwledydd Prydain ers 20 mlynedd gam yn nes yn dilyn cytundeb gwerth biliynau o bunnoedd rhwng EDF a buddsoddwyr o Tsieina.
Mae’r cytundeb yn golygu bod modd bwrw ymlaen gyda chynlluniau i adeiladu gorsaf bŵer yn Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf.
Mae disgwyl i bŵer gael ei gynhyrchu yno am y tro cyntaf yn 2025, ddwy flynedd ar ôl y dyddiad disgwyliedig gwreiddiol.
Fe fydd gan EDF gyfran gwerth 66.5% yn Hinkley Point C, tra bydd gan CGN gyfran gwerth 33.5%.
Cost adeiladu’r safle, yn ôl pob tebyg, fydd £18 biliwn – sy’n £2 biliwn yn fwy na’r ffigwr gwreiddiol a gafodd ei grybwyll dair blynedd yn ôl, a hynny o ganlyniad i effaith chwyddiant.
Mae’r cytundeb hefyd yn golygu y bydd gorsafoedd pŵer newydd yn cael eu codi yn Swydd Suffolk ac yn Swydd Essex.
Mae’r cytundeb yn ddibynnol ar gytgord byrddau gweithredol y ddau gwmni.
Daeth y cyhoeddiad ar ail ddiwrnod ymweliad Arlywydd Tsieina, Xi Jinping â gwledydd Prydain.
Cafodd y prosiect ei drafod yn ystod cyfarfod rhwng Jinping a Phrif Weinidog Prydain, David Cameron.
Mae disgwyl i’r prosiect greu hyd at 25,000 o swyddi newydd yn ystod y cyfnod adeiladu, ac fe fydd 900 o swyddi’n cael eu cynnal.
Mae disgwyl i 1,000 o brentisiaethau gael eu sefydlu, ac fe fydd £14 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn addysg a hyfforddiant.
Mae disgwyl i 60% o’r cytundebau adeiladu fynd i gwmnïau Prydeinig.
Gwrthwynebiad
Tra bod undeb GMB wedi croesawu’r cyhoeddiad, mae gwrthwynebwyr i’r cynlluniau wedi tynnu sylw at gostau adeiladu’r safle a’r amser y bydd yn ei gymryd i gynhyrchu pŵer.
Dywedodd llefarydd ynni a newid hinsawdd y Blaid Lafur, Lisa Nandy: “Mae pryderon go iawn am yr hyn y bydd y cytundeb hwn yn ei olygu i gyllidebau teuluoedd ac i’n diogelwch cenedlaethol ni hefyd.
“Rhaid mynd i’r afael â’r pryderon hyn cyn dod i gytundeb buddsoddi terfynol.”
Ychwanegodd ei bod hi wedi galw ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i graffu ar y cytundeb.