Heroin
Mae nifer y marwolaethau sy’n cael eu hachosi gan gyffuriau yng Nghymru wedi gostwng 30% dros y pum mlynedd diwethaf yn ôl y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething.

Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod nifer y marwolaethau o ganlyniad i gamddefnydd cyffuriau wedi gostwng 16% yn 2014 o’i gymharu â 2013 a 30% ers 2010.

 ‘Un yn ormod’

“Tra ‘mod i’n croesawu’r newyddion am ostyngiad pellach, mae unrhyw farwolaeth o achos cyffuriau yn un yn ormod,” meddai Vaughan Gething wrth siarad cyn dadl ar gamddefnyddio cyffuriau yn y Senedd heddiw.

“Mae mynd i’r afael â chamddefnydd cyffuriau yn broblem gymhleth, y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n galed i fynd i’r afael a hi.

“Rydym yn buddsoddi dros £50 miliwn y flwyddyn mewn rhaglenni i daclo’r niwed sy’n cael ei achosi gan gamddefnydd cyffuriau ac mae’r ffigurau’n dangos bod yr arian hwn yn dod â buddiannau go iawn.”

Mae rhaglenni’r llywodraeth i ddatrys problem cyffuriau’r wlad yn cynnwys,

  • Llinell gymorth ddwyieithog ar gamddefnyddio cyffuriau – Dan 24/7
  • Rhaglen mynd â naloxone adref (cyffur tebyg i forffin), sy’n gwrthdroi effeithiau gorddos
  • Prosiect lleihau niwed WEDINOS
  • Gwybodaeth a chefnogaeth i rieni, gofalwyr ac ysgolion i addysgu plant a phobl ifanc am beryglon cyffuriau

Nifer y bobl sy’n marw o gocên neu heroin wedi cynyddu

Er i’r ffigurau ddangos gostyngiad ar y cyfan, mae’r ffigurau sy’n cynrychioli Cymru a Lloegr wedi dangos bod nifer y bobl sy’n marw o ganlyniad i gymryd cocên neu heroin wedi codi’n sylweddol.

Roedd 247 wedi marw yn 2014 o gymryd cocên, o gymharu â 169 yn 2013. A rhwng 2012 a 2014, roedd nifer y bobl wnaeth farw o achos heroin a/neu forffin wedi cynyddu o 579 i 952.