Bydd Bwrdd a Chyfarwyddwyr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn cwrdd heddiw (dydd Mercher, Ionawr 27) i drafod a fydd y Sioe Frenhinol yn cael ei chynnal eleni.

Daw hyn wedi i’r Sioe orfod cael ei chanslo y llynedd oherwydd y pandemig.

Roedd disgwyl i sioe amaethyddol fwyaf Ewrop gael ei chynnal yn Llanelwedd fis Gorffennaf eleni, ond mae bygythiad parhaus y coronafeirws yn golygu bod nifer o wyliau eraill yr haf eisoes wedi eu gohirio.

Mae Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eisoes wedi penderfynu gohirio a pheidio cynnal y digwyddiadau ar eu “ffurf arferol” eleni.

Gohirio Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion tan 2022

A bydd rhaid lleihau nifer y staff i “hanner ei faint” meddai’r Prif Weithredwr.

 

Gohirio Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Ddinbych

Yr Urdd yn “gwarchod iechyd a lles aelodau, gwirfoddolwyr a swyddogion yr Urdd yn ogystal â’r cyhoedd”