Mae tri o rwydweithiau symudol mwyaf gwledydd Prydain wedi cyhoeddi cynlluniau i adeiladu 33 o fastiau yng Nghymru i wella signal ffôn mewn ardaloedd gwledig.

Fel rhan o raglen y ‘Rhwydwaith Rhannu Gwledig’ bydd O2, Three a Vodafone yn cydweithio i adeiladu 222 o fastiau newydd ledled gwledydd Prydain.

Eglura prif weithredwyr y cwmnïau mai’r “unig ffordd o lenwi’r bylchau yn y signal sydd ar gael yn y Deyrnas Unedig yw trwy weithio gyda’n gilydd”.

Ychwanega’r cwmnïau y bydd yn arwain at “gynnydd dramatig” mewn gwasanaeth 4G mewn ardaloedd gwledig ar draws y pedair gwlad.

Mae disgwyl i’r cynllun, sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth San Steffan ac Ofcom, gael ei gwblhau erbyn 2024.

Dileu mannau gwan

Ynghyd â’r cynllun Rhwydwaith Rhannu Gwledig, mae Llywodraeth San Steffan hefyd wedi ymrwymo i fuddsoddi mwy na £500 miliwn i ddileu “mannau gwan”, er mwyn sicrhau bod modd dod o hyd i signal yn 90% o dir yng ngwledydd Prydain.

“Rwy’n falch iawn o weld cynnydd mawr yn cael ei wneud i gael gwared ar ’mannau gwan’ o ddarpariaeth symudol wael,” meddai Matt Warman, Gweinidog dros Seilwaith Digidol.

“Bydd y seilwaith newydd hwn yn ehangu potensial cymunedau gwledig ym mhob un o’r pedair gwlad ac yn cynnig mwy o ddewis o wasanaethau 4G cyflym a dibynadwy.

“Fel rhan o’r Rhwydwaith Rhannu Gwledig newydd hwn mae’r Llywodraeth hefyd yn buddsoddi hanner biliwn o bunnoedd ar fastiau newydd mewn ardaloedd heb unrhyw signal er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.”

Mastiau gwledig newydd fesul gwlad:

  • Yr Alban: 124
  • Lloegr: 54
  • Cymru: 33
  • Gogledd Iwerddon: 11