Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru
Mae Prif Weinidog Cymru wedi ymateb i gyhoeddi Mesur Drafft Cymru heddiw drwy ddweud fod rhannau o’r mesur “yn peri pryder difrifol” ac yn “gam yn ôl.”

Wrth gyhoeddi’r Mesur heddiw dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol, Stephen Crabb y byddai’n “creu Cymru gryfach o fewn y DU.”

Ond dywedodd Carwyn Jones bod rhannau o’r Mesur yn aneglur, a dywedodd y byddai’n gwneud y Cynulliad “yn llai pwerus nag ar hyn o bryd.”

Ychwanegodd y byddai angen “archwilio manwl ar y rhain yn ystod y dyddiau a’r wythnosau nesaf.”

Pwerau etholiadol

Fe ddywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol am rai misoedd ynglŷn â’r Mesur Drafft – ond doedd Llywodraeth Cymru ddim wedi gweld 31 o’r cyfanswm o 33 o gymalau oedd yn y Mesur Drafft – tan ddoe.

Fe ddywedodd fod yr hyn nad oedd wedi’i weld yn cynnwys y cynlluniau i ddatganoli pwerau yn ymwneud ag etholiadau Cymreig, trefniadau i strwythur y Cynulliad, a chynlluniau drafft a fyddai’n efelychu Senedd yr Alban.

“Ar ôl archwilio’r rhain mewn manylder, gellir eu croesawu,” meddai.

‘Llai pwerus’

 

Ond, fe ddywedodd fod rhai rhannau o’r Mesur Drafft yn peri pryder iddo.

“Maen nhw’n gosod cyfyngiadau newydd ar allu’r Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu a fyddai’n gwneud ein setliad yn fwy cymhleth ac yn llai pwerus nag ar hyn o bryd,” esboniodd.

Cyfeiriodd at y cynnig tuag at sicrhau caniatâd Whitehall ar Fesurau’r Cynulliad, gan ofyn “pa fath o ddatganoli fyddai hynny?”

O ganlyniad, mae’n fwriad gan Lywodraeth Cymru i wella’r mesur, er mwyn sicrhau y bydd y setliad yn un tymor hir a sefydlog ac yn cyd-fynd ag ymrwymiad Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth y DU.

Fe gynigiodd y Prif Weinidog y dylid trafod y mater yn y Senedd yn fuan ar ôl seibiant hanner tymor.

“Dylai Mesur Cymru ddarparu cyfle i wella’r ffordd y caiff Cymru ei lywodraethu,” meddai’r Prif Weinidog.

“Fe fyddwn ni’n parhau i drafod er mwyn cyflawni hynny, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ymateb yn unol ag anghenion pobol Cymru.”