Wayne Letherby
Mae dau ddyn wedi cael eu carcharu am wyth mlynedd yr un am ladd dyn 42 oed o Donypandy tu allan i dafarn.

Bu farw Wayne Letherby ar Ebrill 17, yn dilyn ymosodiad “ffyrnig” arno y tu allan i dafarn De Winton y dref yng Nghwm Rhondda.

Roedd Dean Doggett, 26, o Donypandy a Jamie Leyshon, 26, o Benygraig wedi pledio’n euog i gyhuddiad o ddynladdiad ond wedi gwadu ei lofruddio.

Cafodd diffynnydd arall, Kylie Thomas, 25 o Benygraig,  ei charcharu am 12 mis ar ôl pledio’n euog i anhrefn treisgar.

Wrth roi teyrnged i’w gwr, dywedodd gweddw Wayne Letherby, Linda, mewn datganiad ei fod yn ŵr “gweithgar, gofalus a rhamantus.”

Wrth eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd heddiw dywedodd y Barnwr Mrs Ustus Nicola Davies bod y ddau ddiffynnydd wedi bod yn yfed alcohol a bod hynny wedi bod yn ffactor yn yr ymosodiad.