Leanne Wood
Mae Plaid Cymru wedi atal newidiadau arfaethedig gan Lywodraeth Cymru i uno’r awdurdodau lleol cyn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.
Daeth Plaid Cymru i gytundeb a Llywodraeth Lafur Cymru ynglyn a’r Bil Llywodraeth Leol a fydd yn ei gwneud hi’n bosib uno cynghorau.
Ond mae’r cytundeb yn golygu na fydd modd uno unrhyw gynghorau cyn etholiad y Cynulliad ym mis Mai 2016.
Roedd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews am weld nifer yr awdurdodau lleol yng Nghymru yn lleihau o 22 i wyth neu naw.
Gan nad oes gan Lafur Cymru fwyafrif yn y Cynulliad, roedd angen cefnogaeth un Aelod Cynulliad arall i gymeradwyo’r ddeddfwriaeth.
‘Cyflwyno argymhellion unigol’
“Mae Plaid Cymru wedi rhwystro Llafur rhag gorfodi ei map ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol drwy’r drws cefn cyn bod cynlluniau’n cael eu cyflwyno i’r bobl,” meddai arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
“Dylai newidiadau ar raddfa anferth i strwythurau Llywodraeth Leol ddim cael eu penderfynu gan wleidyddion heb fandad, ond yn hytrach gael eu cyflwyno i bobl adeg yr etholiad.”
Yn ôl Leanne Wood, mae’r datblygiad diweddaraf hwn yn golygu y bydd “pob un o’r pleidiau yn gallu cyflwyno eu hargymhellion unigol o’u maniffestos a cheisio am fandad i’w gweithredu, heb gael eu clymu gan flaenoriaethau’r Llywodraeth bresennol.”
Mae Plaid Cymru am gadw’r 22 o awdurdodau presennol a’u gweld yn gweithio gyda’i gilydd fel “awdurdodau rhanbarthol cyfyngedig.”
Mae’r blaid hefyd wedi galw am systemau pleidleisio “tecach” ar gyfer etholiadau llywodraethau lleol, a bydd y newid hwn yn galluogi’r llywodraeth nesaf sydd mewn grym i gyflwyno hyn.
‘Cadw at y status quo ddim yn opsiwn’
“Mae’n glir nad yw cadw at y status quo yn opsiwn ar gyfer llywodraeth leol, a gall rhan bwysig o’r fframwaith gael ei roi ar waith er mwyn ad-drefnu,” meddai’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews.
“Dylai pob plaid wleidyddol amlinellu eu cynlluniau ar gyfer yr etholiad nesaf.”