Roedd Emyr Parry ar ei feic, pan gafodd ei daro’n wael. Doedd e ddim yn ymwybodol ar y pryd ei fod yn cael trawiad ar y galon.

Yn feiciwr profiadol, a oedd wedi arfer seiclo milltiroedd, penderfynodd geisio seiclo’r tair milltir oedd o fewn cyrraedd ei gartref, ond pan nad oedd yn gallu mynd dim pellach, llwyddodd i ffonio adre a gofyn i’w fab, Amlyn,  ddod i’w nôl.

Dyna i gyd mae’n ei gofio o’r diwrnod hwnnw, pum mis yn ôl, gan iddo gwympo’n anymwybodol yn fuan wedi hynny.

Roedd beiciwr arall wedi mynd ato i’w helpu ac wedi dweud wrth Amlyn Parry ble oedd ei dad.

‘Byddwn i ddim yma heddiw heb ymyrraeth Amlyn’

Mae Amlyn Parry yn cofio cyrraedd ei dad a’i weld yn gorwedd yn llonydd ar y llawr:

“Cefais i sioc fy mywyd,” meddai.

Ond er y sioc, llwyddodd i’w roi yn yr ystum adfer (recovery position) a phan wnaeth ei dad stopio anadlu’n gyfan gwbl, fe wnaeth ddechrau perfformio CPR arno a phwmpio ei frest am ryw 10 munud cyn i’r ambiwlans awyr gyrraedd.

Cafodd ei dad drawiad arall yn yr hofrennydd, ac roedd mewn coma am 10 diwrnod, ond gyda help yr Uned Gofal Dwys yn Ysbyty Gwynedd, fe ddechreuodd wella, ac er bod ganddo anabledd yn ei ddwylo o achos ei feddyginiaeth, mae’n gwella bob dydd.

“Heblaw bod Amlyn wedi ymyrryd ac wedi rhoi CPR i mi, byddwn i ddim yma heddiw,” meddai wrth golwg360.

Llai na hanner yn gallu perfformio CPR

Byddai llai na hanner ohonom yn gallu gwneud yr un peth ag Amlyn Parry ar rywun sy’n cael ataliad ar y galon, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Warwick.

Ac yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF), mae hyn yn lleihau’r siawns i ddioddefwyr oroesi, gan fod pob munud heb CPR na diffibriliwr yn golygu bod rhywun yn fwy tebygol o farw.

Mae diffyg gwybodaeth y cyhoedd a’u pryderon ynglŷn â helpu yn golygu bod amser yn cael ei golli wrth aros am ambiwlans i gyrraedd.

Ar ôl 10 munud o fod heb CPR na diffibriliwr, dim ond siawns o 2% sydd gan rywun o oroesi.

Mae 59% o bobl yn gyndyn i helpu am eu bod yn meddwl y gallan nhw wneud pethau’n waeth ond yn ôl y BHF, mae gwneud dim byd yn waeth o lawer.

“Mae’n sgil angenrheidiol i’w gael. Mae’n syml, dydy o ddim yn anodd. Dydych chi byth yn gwybod os wnaiff rhywbeth tebyg ddigwydd i chi, ac mae’n sicr y peth pwysicaf dw i wedi’i wneud,” meddai Amlyn Parry.

Mae dros 30,000 o ataliadau ar y galon yn digwydd y tu allan i’r ysbyty yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn, gyda llai nag un ymhob 10 yn goroesi.

Ac mae Emlyn Parry yn ddiolchgar ei fod wedi byw i ddweud ei stori:  “Dwi’n hynod o ddiolchgar. Mae gen i lawer o le i ddiolch i Amlyn, y Gwasanaeth Ambiwlans Awyr a’r Uned Gofal Dwys yn Ysbyty Gwynedd.”