Disgyblion Ysgol Gyfun Bro Myrddin yn Times Square y llynedd
Bydd bron i 400 o blant ysgol yn perfformio ‘fflash mob’ yng nghanol Times Square yn Efrog newydd, ddydd Llun nesaf.
Mae fflash mob yn digwydd pan fydd criw o bobl mewn torf yn dechrau canu neu ddawnsio gyda’i gilydd heb rybudd.
Bydd y fflash mob hwn yn cynnwys disgyblion o sawl ysgol o Gymru a fydd i gyd yn gwisgo coch ac yn canu’r anthem genedlaethol yng nghanol y ddinas.
“Byddaf i’n chwythu chwiban ac yn gweiddi ‘C’mon Cymru!’ a gobeithio bydd pawb arall yn aros lan ac yn canu’r anthem,” meddai Dr Huw Griffiths, pennaeth yr adran Hanes yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin.
“Daeth y syniad yn y gawod, fi’n cael fy mrênwefs i gyd o’r gawod!”
Bydd y fflash mob hefyd yn cael ei ddarlledu ar sgrin anferth yn Times Square a bydd yr ysgolion yn gwneud fideo ohono.
Mae Dr Huw Griffiths hefyd wedi cysylltu â Chymdeithas Dewi Sant Efrog Newydd, sydd wedi dangos diddordeb i fod yn rhan o’r fflash mob.
Rhestr o’r ysgolion sy’n cymryd rhan
Ysgol Gyfun Bro Myrddin, Caerfyrddin
Ysgol Gyfun Y Strade, Llanelli
Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan
Ysgol Uwchradd Llanisien, Caerdydd
Ysgol Bro Dinefwr, Llandeilo
Ysgol Gyfun Aberaeron
Ysgol Gyfun Brynteg, Pen-y-bont ar Ogwr