Carwyn Jones
Mae cynllun newydd ar sut i fesur cynnydd y genedl yn cael ei gyhoeddi heddiw o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Mae’r cynllun yn cynnwys 40 o “ddangosyddion cenedlaethol” a fydd yn helpu Llywodraeth Cymru i fesur cynnydd y genedl ym meysydd fel iechyd, yr amgylchedd, addysg a’r economi.

Bwriad y rhain yw helpu’r wlad i gyrraedd amcanion y ddeddf, sy’n cynnwys bywyd hir ac iach i bawb, pobl ifanc yn gadael yr ysgol gyda sgiliau a chymwysterau, pobl mewn gwaith, ansawdd tai, pobl yn defnyddio’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd, ac ansawdd yr aer.

Cymru’n anelu am “7 nod lles”

Fel rhan o’r cynllun, bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi bob blwyddyn ar gynnydd y wlad i gyflawni’r saith “nod lles” sydd yn y Ddeddf Llesiant.

Bydd y nodau lles hyn yn canolbwyntio ar greu cenedl lewyrchus, wydn, iachach, fwy cyfartal a fwy cyfrifol yn rhyngwladol.

Mae ffyniant yr iaith hefyd yn rhan o’r saith nod sydd wedi’u cynnwys yn y ddeddf.

Bydd y cynllun ym mynd drwy broses ymgynghori cyn cyhoeddi data sylfaenol o farn pobl Cymru yn haf 2016, gyda’r adroddiad cyntaf ar les y genedl yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2016-2017.

‘Cyfle i ddweud eu dweud’

“Heddiw, rydym yn lansio ymgynghoriad mawr i gasglu barn pobl am beth ddylai ein dangosyddion cenedlaethol fod.  Yn syml, sut ydym ni, fel llywodraeth, yn mesur cenedl,” meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones.

“Dyma gyfle gwych i gyrff cyhoeddus, unigolion a sefydliadau ddweud eu dweud ar sut rydym i barhau i ddatblygu ac adeiladu’r Gymru rydym ei heisiau.  Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod dyletswydd arnom i gyd i sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn ganolog yn y penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud heddiw.”

Yn ôl y llywodraeth, dydy’r dangosyddion hyn ddim yn cyfeirio at nodau neu lwyddiannau’r llywodraeth yn unig, ond “at roi darlun llawer mwy cyflawn o gynnydd y genedl yn gyffredinol.”