Stephen Crabb
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gwrthod honiad y gall cynllun newydd ar gyfer datganoli wanhau pwerau’r Cynulliad.

Mae disgwyl i Fesur Drafft Cymru gael ei gyhoeddi ddydd Mawrth ar ôl i Stephen Crabb hefyd wrthod galwadau i oedi’r broses o’i gyflwyno.

Bydd y mesur, sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn ystyried bod gwahanol bwerau wedi’u datganoli oni bai eu bod wedi’u cadw yn ôl gan San Steffan.

Mae Llywodraeth Cymru o blaid y mesur, ond mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud y gallai’r cynlluniau “rwystro pwerau pobl Cymru” ac mae wedi galw ar Stephen Crabb i ohirio’r broses am ddeufis.

Fe wfftiodd Stephen Crabb yr honiad, gan addo pwerau pellach i’r Cynulliad, fel ynni a thrafnidiaeth.

Dywedodd fod rhai gwleidyddion yn edrych am ffrae cyn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai 2016.

Eglurder cyfansoddiadol

Mae Carwyn Jones wedi galw am oedi cyn cyflwyno’r mesur er mwyn cael amser i gynnal trafodaethau trawsbleidiol ar y pwnc.

Fe ddywedodd wrth raglen Y Post Cynta’ ar BBC Radio Cymru: “Allwn ni ddim derbyn rhywbeth sydd ddim yn dderbyniol i Gymru ac o gofio’r ffaith wrth gwrs, bod yr Alban yn cael rhywbeth sy’n hollol syml i ddeall a rhywbeth a fydd yn well… mae’n bwysig ein bod ni’n sicrhau bil clir, sydd ddim yn symud pwerau mas o Gymru a mas o rym pobl Cymru.”

Fe awgrymodd yr Aelod Cynulliad Llafur, Mick Antoniw, y gall y blaid wrthod y mesur os na fydd yn rhoi “eglurder cyfansoddiadol.”

ASau Ceidwadol ‘eisiau tynnu pwerau yn ôl’

Yn ôl yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Sir Fynwy, David Davies, mae rhai ASau Ceidwadol yn dweud eu bod nhw eisiau cymryd grymoedd yn ôl o’r Cynulliad.

Wrth siarad ar raglen Y Post Cynta’ bore ma, meddai David Davies: “Dw i ddim eisiau gweld mwy o rym yn mynd i’r Cynulliad ac mae rhai ohonyn nhw (Aelodau Seneddol Ceidwadol) yn ystyried a ddylwn ni gymryd grymoedd yn ôl o’r Cynulliad.”

Awgrymodd fod “dadlau” ymysg aelodau ei blaid ar ddatganoli yng Nghymru, gan ddweud ei fod yn “teimlo dros Stephen Crabb gan fod ganddo lawer o waith i wneud i’w perswadio nhw i gefnogi hwn (Mesur Cymru).”

Ychwanegodd hefyd ei fod e’n gwrthwynebu’n llwyr roi’r grym i’r Cynulliad i sefydlu system gyfiawnder yng Nghymru.

‘Cymru gryfach’

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru: “Mae Cymru wedi gwrthod y math o genedlaetholdeb a oedd yn bygwth rhannu’r Deyrnas Unedig y llynedd.

“Ond mae awydd cryf yng Nghymru am fwy o lais dros faterion Cymreig o fewn setliad datganoli cryfach. Bydd y Bil ddrafft yn cwrdd â’r ymrwymiadau a nodwyd yng Nghytundeb Dydd Gŵyl Dewi er mwyn  adeiladu Cymru gryfach o fewn DU gref.”

Bydd ymgynghoriad ar y mesur cyn i fersiwn derfynol gael ei chyhoeddi fis Chwefror.