Fe fydd cwmni Crown yn dechrau cyfnod ymgynghori o 45 diwrnod gyda gweithwyr heddiw yn eu ffatri yng Nghastell Nedd

Mae bron i 250 o swyddi yn y fantol ar ôl i’r cwmni gyhoeddi wythnos diwethaf eu bod yn ystyried cau’r safle ar Stad Ddiwydiannol Ffordd Milland yng Nghastell Nedd.

Mae Crown, sydd yn cynhyrchu deunyddiau pacio nwyddau, wedi cyfaddef eu bod eisoes yn ymgynghori ynglŷn â chau’r safle gan ddweud bod gormod o gystadleuaeth yn y farchnad.

Dywedodd undeb Unite Cymru y byddai colli’r swyddi yn ergyd fawr arall i’r diwydiant cynhyrchu yng Nghymru, ac mae gwleidyddion lleol hefyd wedi mynegi pryder am y newyddion.

“Mae hwn yn ergyd fawr i’r diwydiant cynhyrchu yng Nghymru ac i Gastell Nedd yn enwedig, gan ei bod hi wedi colli sawl cyflogwr mawr dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai ysgrifennydd Unite Cymru, Andy Richards.

“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth y gallan nhw i ymyrryd a thrafod cynlluniau gwahanol yn lle cau’r ffatri gyda’r cwmni.”

Mae gan Crown ddau safle arall sy’n pecynnu bwyd yn y DU, yn Braunstone a Wisbech. Mae’n rhan o bortffolio’r cwmni sy’n cynnwys 134 o safleoedd mewn 41 o wledydd.