Mae prosiect gan Brifysgol Abertawe wedi cael cyllid i ymchwilio i’r defnydd o alcohol gan bobol o gefndiroedd Sipsiwn, Roma a theithwyr.

Roedd prosiect y tîm o Abertawe’n un o bedwar a ddewiswyd i gael cymorth dan raglen grantiau New Horizons yr elusen Alcohol UK, sy’n cefnogi ymchwil academaidd i feithrin dealltwriaeth well o grwpiau, cymunedau ac effeithiau niweidiol alcohol.

Ffurfiwyd Alcohol Change UK drwy uno Alcohol Concern ac Alcohol Research UK.

Dewiswyd thema ‘grwpiau, cymunedau ac effeithiau niweidiol alcohol’ ar gyfer ceisiadau am grantiau ymchwil, a hynny gan y fod ’diwylliant’ a ‘hunaniaeth’ yn codi’n aml mewn trafodaethau sy’n ymwneud ag yfed alcohol.

Bydd yr astudiaeth – Telling our own stories: an exploratory study of alcohol use and harm by people who identify as Roma, Gypsies and Travellers – yn cael cyllid o fis Ebrill 2021.

Sipsiwn a theithwyr sy’n “dioddef fwyaf o safbwynt iechyd”

Dywedodd Louise Condon, Athro Nyrsio yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd: “Mae’r prosiect hwn yn bwysig gan fod sipsiwn a theithwyr ymhlith y lleiafrifoedd ethnig yn y DU sy’n wynebu gwahaniaethu – ond nhw sy’n dioddef fwyaf o safbwynt iechyd.

“Bydd ymchwilwyr cymheiriaid yn gweithio gyda’r tîm ymchwil academaidd i ddechrau’r broses o archwilio arferion diwylliannol o ran yfed alcohol a bydd astudiaethau digidol wedi’u recordio yn cynnig adnodd i lywio’r gwaith o hyrwyddo iechyd.”

Bydd yr Athro Condon yn gweithio ochr yn ochr â Dr Filiz Celik, tiwtor seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe a seicotherapydd systemig a theuluol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; yr ymchwilydd iechyd cyhoeddus a’r myfyriwr PhD, Suzannah Hargreaves, o Brifysgol Salford; a’r gweithiwr eirioli ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr, Sam Worrall.