Mae diwrnod Shw’mae Su’mae nôl am y trydydd tro, gan annog nifer o sefydliadau, busnesau a chymunedau i wneud yr ymdrech i ddechrau sgyrsiau gyda “Shw’mae” neu “Su’mae”.

Nod y diwrnod yw hybu’r Gymraeg, ei gwneud yn fwy amlwg yn gyhoeddus ac annog pobl i’w defnyddio a dangos bod yr iaith “yn perthyn i bawb” – yn siaradwyr rhugl, dysgwyr neu bobl sydd ddim mor hyderus am eu Cymraeg.

Cwmni banc NatWest yw’r diweddaraf i ymuno â’r ymgyrch gan ymrwymo i “gefnogi dysgwyr Cymraeg yn eu canghennau.”

Mae’r banc wedi bod yn cydweithio â chwmni LlesCyf i’w helpu i ddatblygu gwasanaethau Cymraeg a dywedodd cyfarwyddwr NatWest Cymru, Mark Douglas, fod hyn wedi “ehangu eu gorwelion” am sut i weithredu yn y dyfodol “gyda’r iaith yn ganolbwynt i’r banc yng Nghymru.”

‘Pencampwyr’ y diwrnod

“Pencampwyr” y diwrnod eleni yw’r diddanwr, y Welsh Whisperer, y ffermwr a’r darlledwr, Gareth Wyn Jones, criw Canolfan Soar Merthyr Tudful ac Angharad Williams sy’n rhedeg siopau Lan Llofft yn Llanbed a Machynlleth.

“Rwy’n browd iawn i helpu hybu’r diwrnod a lledaenu’r neges i ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg,” meddai’r wraig fusnes, Angharad Williams.

“O ganlyniad (i ddefnyddio’r Gymraeg) rydym wedi cael mwy o gefnogaeth gan ein cwsmeriaid am eu bod nhw eisiau cefnogi busnesau lleol Cymraeg.”

Mae nifer o sefydliadau ar hyd a lled Cymru hefyd wedi bod yn cymryd rhan eto eleni, gan gynnwys myfyrwyr a staff Coleg Ceredigion sydd wedi creu fideo a chân arbennig Shwmae Ceredigion i nodi’r diwrnod:

‘Rhoi teimlad o berthyn yn genedlaethol’

Felly beth mae Diwrnod Shw’mae Su’mae yn golygu i bobl Cymru erbyn hyn, a yw’n llwyddo i newid agweddau pobl am y Gymraeg?

Yn ôl Catrin Dafydd, sydd wedi bod yn hyrwyddo’r diwrnod yn Sir Gaerfyrddin, yr hyn sy’n arbennig am y diwrnod yw mai cymunedau sy’n gyfrifol am ei lwyddiant

“Mae e’n digwydd os yw cymunedau mo’yn iddo fe ddigwydd, mae hynny’n achos balchder mawr,” meddai wrth Golwg360.

Nid yw’r fenter yn derbyn unrhyw grant, felly yn ôl Catrin, mae’n dibynnu ar “ewyllys da pawb tuag at y Gymraeg.”

“Mae hwn yn ddiwrnod sy’n dechrau’r daith gan annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg a wastad dechrau gyda “Shw’mae.”

“Mae’n rhoi teimlad o berthyn yn genedlaethol ac mae hynny mor bwysig, yn enwedig i gymunedau lle mae fwy o her i hybu’r Gymraeg.”