Naw mis fewn i’r pandemig, mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru wedi erfyn ar y cyhoedd i gadw at y rheolau gan ddweud bod eu haelodau wedi “blino, dan straen ac ar eu gliniau”.
Mae’r undeb, sydd yn cynrychioli 26,000 o weithwyr gofal iechyd rheng flaen, wedi uno â naw undeb arall i dynnu sylw at effaith y cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws ar staff, ac i annog y cyhoedd i ddiogelu’r Gwasanaeth Iechyd.
“Mae hon wedi bod yn flwyddyn hir, ddiflas ac anodd ac mae gennym lawer o ffordd i fynd yn 2021 i reoli’r feirws ofnadwy hwn,” meddai Nicky Hughes, Cyfarwyddwr Nyrsio Cyswllt, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru.
“Naw mis i mewn i’r pandemig ac mae ein haelodau wedi blino, dan straen ac ar eu gliniau.
“Bob dydd maen nhw’n dweud wrthym eu bod yn teimlo nad oes ganddyn nhw unrhyw beth ar ôl i’w roi a’u bod yn teimlo eu bod yn cael eu dibrisio.”
Mae 24% o gleifion sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd yn gleifion Covid-19, sy’n cymharu â 18% pan oedd y pandemig yn ei anterth ym mis Mai.
Yr wyth undeb arall sydd yn galw ar y cyhoedd i gadw at y rheolau yw BMA Cymru, Cymdeithas Therapyddion Galwedigaethol Prydain, Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi, y GMB, Coleg Brenhinol y Bydwragedd, Cymdeithas Radiograffwyr, UNSAIN ac Unite.
Galw am eglurder
Mae Cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru hefyd wedi galw am eglurder gan arweinwyr am y canllawiau sydd angen i bobol eu dilyn.
“Rwy’n erfyn ar y bobol sy’n gwneud y penderfyniadau i fod yn glir a chryno ynghylch y canllawiau a gofynnaf i’r cyhoedd gadw at y rheolau hynny – mae’n fwy pwysig nag erioed.
“Mewn blynyddoedd rwy’n gobeithio y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn gallu edrych yn ôl a bod yn ddiolchgar am ein hymdrechion.”