Georgia Williams
Mae rhieni merch 17 oed a gafodd ei llofruddio wedi dweud bod casgliadau adolygiad i’w marwolaeth yn “embaras llwyr” i’r heddlu.

Dywedodd Steve a Lynnette Williams bod yr adroddiad yn dangos y gallai llofruddiaeth eu merch, Georgia Williams, fod wedi’i osgoi petai nhw wedi sylweddoli pa mor beryglus oedd ei llofrudd.

Cafodd Georgia Williams o Sir Amwythig ei llofruddio gan Jamie Reynolds, 23, yn 2013 ar ôl iddo ei denu i’w gartref yn Wellington. Cafodd ei chorff ei ddarganfod mewn ardal goediog ger Rhuthun yn ddiweddarach.

Cafodd Reynolds ei garcharu am oes.

Mae Steve a Lynnette Williams hefyd wedi galw ar Heddlu Gorllewin Mercia i gyhoeddi adroddiad pellach gan Heddlu Dyfnaint a Chernyw y maen nhw’n dweud sy’n amlygu camgymeriadau “10 gwaith yn waeth” na’r rhai a ddaeth i’r amlwg yn yr adolygiad achos difrifol.

Roedd yr adroddiad annibynnol i Heddlu Dyfnaint a Chernyw, a gafodd ei gyflwyno i Heddlu Gorllewin Mercia ym mis Mawrth, wedi arwain at achos camymddwyn yn erbyn pedwar swyddog yr heddlu ac un aelod o staff.

Mewn cynhadledd i’r wasg yn Telford, dywedodd Steve Williams, sy’n dditectif gyda Heddlu Gorllewin Mercia, y dylai adroddiad Dyfnaint a Chernyw gael ei gyhoeddi “am ei fod yn rhoi’r atebion i’r cwestiynau sy’n dal i’w hateb.”

Daeth i’r amlwg bod Reynolds wedi dod i sylw’r heddlu bum mlynedd cyn y llofruddiaeth ar ôl iddo gaethiwo merch 16 oed yn ei gartref a gafael yn ei gwddf mewn ymosodiad “a allai fod wedi bod yn ddifrifol iawn.”

‘Pryderon difrifol’

Mae adolygiad Gorllewin Mercia wedi codi “pryderon difrifol ynglŷn â safon yr ymchwiliad” yn 2008, gan ddweud bod diffyg cydweithrediad rhwng y gwahanol asiantaethau.

Mae’r adolygiad hefyd yn datgelu bod Reynolds wedi ymosod ar ddynes arall ar ol ei denu i’w gartref gan gymryd arno ei fod am helpu gyda phrosiect ysgol.

Cafodd Reynolds rybudd terfynol bryd hynny.

Wythnosau’n ddiweddarach daethpwyd o hyd i ddelweddau treisgar yn ystafell Reynolds o ferched gyda rhaffau o amgylch eu gyddfau, ac roedd ei deulu wedi eu cyflwyno i’r heddlu.

Cafodd Reynolds ei asesu gan feddyg a ddywedodd ei fod yn peri risg sylweddol i eraill.

Daeth Reynolds i sylw’r heddlu eto yn 2011 ar ol iddo yrru ei gar i mewn i gar un i’i gydweithwyr a oedd wedi ei wrthod.

Mae’r adroddiad yn dweud nad oedd cysylltiad wedi cael ei wneud rhwng y digwyddiad yna a’r hyn a ddigwyddodd yn 2008.

“Yn dilyn llofruddiaeth Georgia, cafodd y mater ei ymchwilio ymhellach a dyna pryd daeth i’r amlwg bod ymddygiad amhriodol Reynolds tuag at ei gydweithiwr wedi bod yn barhaus a chynyddol obsesiynol,” meddai’r adroddiad.

‘Dylwn ni fod wedi gwneud yn well’

Mae’r adroddiad wedi gwneud pump o argymhellion i wella’r modd mae gwybodaeth yn cael ei rhannu rhwng asiantaethau.

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gorllewin Mercia David Shaw: “Fe allwn ni ac fe ddylwn ni fod wedi gwneud yn well. Mae hi mor syml â hynny.

“Beth mae’r adroddiad yn ei amlygu yw cyfres o bethau y gall yr heddlu ac asiantaethau eraill eu gwneud i wella, a gwneud yn siŵr nad yw’r methiannau yn digwydd eto.”