Tristan Jones
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth i ddod o hyd i ddyn 21 oed, sydd ar goll o’i gartref yn Nhrefynwy.

Cafodd Tristan Jones ei gludi o ganol tref Y Fenni gan aelod o’i deulu ddydd Mercher, 23 Medi.

Mae swyddogion yr heddlu yn credu ei fod bellach o gwmpas ardal Caerdydd.

Cafodd Tristan Jones ei ddisgrifio fel dyn 5 troedfedd 11 modfedd o daldra, gyda chorff tenau a gwallt brown byr a gwedd olewydd.

Roedd yn gwisgo crys rygbi Cymru gydag ymylon aur, trowsus llwyd tenau, a siwper las gyda hwd.

Roedd yn cario bag du ar ei gefn gydag ysgrifen a phocedi gwyn arno.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 481 6/10/15.