Geraint Parry
Mae llywodraethwyr Ysgol Brynhyfryd yn Rhuthun wedi penodi Pennaeth newydd, sef Geraint Parry.

Yn un sydd wedi bod yn gweithio ym myd addysg ers 1991 yng ngogledd orllewin Lloegr, ac yn fwy diweddar fel Pennaeth Ysgol Birkenhead Park, mae’r athro wedi dweud y bydd yn sicrhau addysg ‘ragorol’ i blant yr ysgol.

Mae wedi byw yn Nyffryn Clwyd am y rhan fwyaf o’i oes, gan fynd i Ysgol Maes Garmon ac ymlaen i Brifysgol Caerdydd i astudio Daearyddiaeth y Môr.

Yn ôl y llywodraethwyr, mae Geraint Parry wedi sicrhau gwelliannau cyflym yn ysgolion y mae wedi’u harwain, ac roedd adolygiad Ofsted diweddaraf amdano yn llawn canmoliaeth, “Mae gweledigaeth uchelgeisiol, penderfyniad, angerdd ac ymroddiad y pennaeth…. wedi sicrhau bod yr ysgol wedi gwella ers yr adolygiad diwethaf.”

Balch

“Rwy’n falch iawn o gael cynnig y swydd hon ac yn teimlo’n falch ac yn freintiedig o allu gwella cyfleoedd a chyfleoedd bywyd ein pobl ifanc,” meddai Geraint Parry.

“Rwy’n rhan o’r gymuned hon ac felly mae gennyf gyfrifoldeb i sicrhau bod ein plant yn cael addysg ‘Ragorol’ haeddiannol. Rwy’n edrych ymlaen at wneud ymrwymiad hirsefydlog ac egnïol i lwyddiant Ysgol Brynhyfryd a bod yn llysgennad ar gyfer yr ysgol a’r dref.”

Bydd yn dechrau yn ei swydd ar 1 Tachwedd.