Mae’r swm sydd yn cael ei wario gan gynghorau Cymru ar wella ffyrdd wedi gostwng i’w lefel isaf mewn dros ddegawd, yn ôl ffigyrau newydd.
Dangosodd ffigyrau Llywodraeth Cymru bod £171.8m wedi cael ei wario ar ffyrdd a thraffyrdd yn 2014/15, oedd £18m yn llai na’r flwyddyn gynt.
Bu’n rhaid i 18 o’r 22 awdurdod lleol leihau eu gwariant, ac yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) roedd hi’n syndod nad oedd mwy na 12% o ffyrdd yn cael eu disgrifio fel eu bod mewn “cyflwr gwael”.
WLGA yn synnu
Roedd gwariant ar ffyrdd yng Nghymru ar ei fwyaf yn 2010/11, pan gafodd £217.6m ei wario gan y cynghorau sir, ond mae’r cyfanswm wedi cwympo bob blwyddyn ers hynny.
Gwynedd, Conwy, Casnewydd a Sir Fynwy oedd yr unig siroedd i gynyddu eu gwariant ar ffyrdd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd WLGA fodd bynnag bod cynghorau i’w weld yn cael mwy am eu harian, gyda 11.9% o ffyrdd bellach mewn cyflwr gwael llynedd o’i gymharu â 13.2% y flwyddyn gynt.
“Mae’r patrwm yma’n syfrdanol o ystyried y pwysau mawr sydd yn cael ei roi ar gyllidebau lleol,” meddai llefarydd ar ran WLGA.
‘Dim cyllid’
Mae cynghorau sir Cymru yn wynebu lleihad o £900m i’w cyllidebau erbyn 2019/20, yn ôl WLGA, allai olygu bod gwariant ar bethau fel gwella ffyrdd yn cael ei leihau hyd yn oed yn fwy yn y dyfodol.
Fe ddywedon nhw eu bod yn siomedig bod benthyciadau o £172m oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella cyflwr ffyrdd bellach wedi cael ei dynnu nôl.
Ond fe ddywedodd Llywodraeth Cymru bod “pwysau ar y gyllideb” wedi golygu bod yr arian nawr wedi cael ei ddargyfeirio tuag at fuddsoddi mewn ysgolion newydd.