Cipiodd Gogledd Iwerddon eu lle ym Mhencampwriaethau Ewrop neithiwr gyda buddugoliaeth o 3-1 yn erbyn Gwlad Groeg, gyda’r ail gôl yn dod gan gyn-ymosodwr – a chyn-golwr – Caerdydd, Josh Magennis.
Ar ôl i Steven Davis sgorio’r gôl agoriadol, fe beniodd Magennis y bêl i’r rhwyd yn yr ail hanner i ddyblu mantais ei dîm cyn i Davis ac yna Christos Aravidis rwydo’n hwyr.
Golwr oedd Magennis yng ngwanwyn ei yrfa, gan ddod oddi ar y fainc unwaith wrth i Gaerdydd herio Lerpwl mewn gêm gwpan.
Ond fe gafodd y chwaraewr 25 oed ei droi yn ymosodwr gan Gaerdydd yn 2009, ac ers hynny mae wedi mynd ymlaen i chwarae i Aberdeen a Kilmarnock yn Yr Alban.
Siom i’r Alban
Os oedd Magennis a Gogledd Iwerddon yn dathlu neithiwr, fodd bynnag, doedd yr un peth ddim yn wir am yr Alban yng Ngrŵp D ymgyrch ragbrofol Ewro 2016.
Fe ildion nhw gôl ym munud olaf y gêm i Wlad Pwyl, gyda’r canlyniad cyfartal o 2-2 yn golygu nad oes ganddyn nhw obaith bellach o gyrraedd Ffrainc.
Fe fyddai’r gobaith hwnnw dal yn fyw petai Gweriniaeth Iwerddon wedi colli gartref yn erbyn yr Almaen. Ond diolch i gôl annisgwyl Shane Long fe gipiodd y Gwyddelod fuddugoliaeth hanesyddol dros bencampwyr y byd.
Mae’n golygu bod yr Almaen yn parhau i fod ar frig y grŵp rhagbrofol hwnnw gydag 19 pwynt, gyda Gwlad Pwyl a Gweriniaeth Iwerddon ar 18 pwynt yr un, a dim ond dau yn bendant o’u lle yn yr Ewros.
Fe fydd Cymru’n cael cyfle i sicrhau eu lle yn y twrnament nos Sadwrn, pan fyddan nhw’n herio Bosnia yn Zenica.