Liam Williams
Fe fydd Liam Williams yn dychwelyd i dîm Cymru ar yr asgell i herio Awstralia dydd Sadwrn ar ôl gwella o glec i’w ben, gyda George North yn symud i’r canol at Jamie Roberts.
Mae prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi gwneud chwe newid i’w dîm ar gyfer y gêm fydd yn penderfynu enillwyr Grŵp A yng Nghwpan Rygbi’r Byd.
Mae’n cynnwys newid yn y rheng ôl, gyda Justin Tipuric yn ymuno â Sam Warburton a Taulupe Faletau, a dim lle ar y fainc hyd yn oed i Dan Lydiate.
Bydd Paul James a Samson Lee yn dechrau yn y rheng flaen, Luke Charteris yn hawlio lle yn yr ail reng, a Gareth Anscombe yn ennill ei ail gap fel cefnwr.
Fe fydd Jake Ball a Ross Moriarty nôl ar y fainc i Gymru ar ôl cael eu gadael allan o’r garfan ar gyfer y fuddugoliaeth dros Fiji wythnos diwethaf.
Mae’n golygu bod Gethin Jenkins, Bradley Davies, Matthew Morgan a Tyler Morgan yn colli’u lle yn y tîm o 23 yn gyfan gwbl, ac mae Tomas Francis yn ôl ar y fainc.
Herio hanes
Mae gan Gymru record sâl yn erbyn Awstralia yn ddiweddar, gan golli’r deg gêm ddiwethaf rhwng y ddau a heb ennill ers 2008.
Ond mae sawl un o garfan Cymru wedi profi buddugoliaeth dros y Wallabies yn fwy diweddar na hynny, gyda Warren Gatland a nifer o’r chwaraewyr yn rhan o dîm y Llewod a enillodd allan yn Awstralia yn 2013.
Bydd cic gyntaf yr ornest dydd Sadwrn am 4.45yp, ac fe fydd y gêm yn fyw ar S4C.
Awstralia yn aros
Mae Awstralia hefyd wedi enwi eu tîm bellach, gydag Israel Folau yn ffit ond Rob Horne yn methu’r gêm ag anaf a Michael Hooper wedi’i wahardd.
Mae angen i Gymru ennill yn erbyn Awstralia er mwyn ennill y grŵp, gan y byddai hynny mwy na thebyg yn golygu wynebu’r Alban yn rownd yr wyth olaf ac yna Ffrainc, Iwerddon neu’r Ariannin yn y rownd gynderfynol.
Byddai gorffen yn ail yn y grŵp fodd bynnag yn golygu tebygolrwydd o herio De Affrica yn y chwarteri a Seland Newydd yn y rownd gynderfynol.
Tîm Cymru: Paul James, Scott Baldwin, Samson Lee, Alun Wyn Jones, Luke Charteris, Sam Warburton, Justin Tipuric, Taulupe Faletau; Gareth Davies, Dan Biggar, Liam Williams, Jamie Roberts, George North, Alex Cuthbert, Gareth Anscombe
Eilyddion Cymru: Ken Owens, Aaron Jarvis, Tomas Francis, Jake Ball, Ross Moriarty, Lloyd Williams, Rhys Priestland, James Hook
Tîm Awstralia: Scott Sio, Stephen Moore, Sekope Kepu, Kane Douglas, Dean Mumm, Scott Fardy, Sean McMahon, David Pocock; Will Genia, Bernard Foley, Drew Mitchell, Matt Giteau, Tevita Kuridrani, Adam Ashley-Cooper, Israel Folau
Eilyddion Awstralia: Tatafu Polota-Nau, James Slipper, Greg Holmes, Rob Simmons, Ben McCalman, Nick Phipps, Matt Toomua, Kurtley Beale