Sepp Blatter
Fe allai Sepp Blatter wynebu gwaharddiad dros dro o FIFA yn dilyn argymhelliad gan bwyllgor moeseg FIFA sydd yn ymchwilio i’w ymddygiad.

Dywedodd un o gynghorwyr Blatter fod disgwyl iddo weithio fel yr arfer dydd Iau, fodd bynnag, a hynny er gwaethaf argymhelliad y pwyllgor y dylai gael ei wahardd am 90 diwrnod.

Yn ôl adroddiadau fe allai llywydd UEFA Michael Platini hefyd wynebu gwaharddiad dros dro ond dyw pennaeth y pwyllgor, y barnwr Joachim Eckert, ddim wedi gwneud penderfyniad eto.

“Fe [Blatter] yw’r llywydd o hyd, fe fydd e’n mynd i’w swyddfa yn FIFA dydd Iau. Mae hwn yn gyfnod anodd iddo wrth gwrs ond mae e’n teimlo’n gryf a hyderus,” meddai un o’i gynghorwyr Klaus Stohlker.

Y Swistir yn ymchwilio

Mynnodd cyfreithwyr Sepp Blatter fodd bynnag nad oedd y gŵr 79 oed wedi cael clywed unrhyw beth yn swyddogol gan bwyllgor moeseg FIFA eto.

Mae awdurdodau yn y Swistir, ble mae pencadlys FIFA wedi’i sefydlu, eisoes yn ymchwilio i daliad o ddwy filiwn Swiss franc (£1.35m) y gwnaeth Blatter i Michel Platini.

Fe gafodd y taliad ei wneud yn 2011, ychydig cyn i Platini benderfynu peidio â herio Blatter am arweinyddiaeth FIFA, am waith yr oedd Platini wedi ei wneud rhwng 1999 a 2002.

Mae Twrnai Cyffredinol y Swistir hefyd yn ymchwilio i honiadau bod Blatter hefyd wedi gwerthu hawliau darlledu i un o gyn is-lywyddion FIFA Jack Warner am bris 20 gwaith yn is na’u gwerth go iawn.