Elin Walker-Jones
Mae angen newid y gyfraith er mwyn galluogi pobol Cymru i nodi eu hunaniaeth Gymreig ar ffurflenni swyddogol, dogfennau a bas-data, yn ôl Elin Walker-Jones, Cynghorydd Plaid Cymru o Fangor.
Mae hi wedi rhybuddio y bydd hi’n cynnig yr her hon yn ystod cyfarfod llawn Cyngor Gwynedd heddiw yng Nghaernarfon.
Mae Elin Walker-Jones yn cynrychioli trigolion Glyder ar Gyngor Gwynedd, ac yn credu ei bod hi’n “sefyllfa hurt” nad yw’r gofrestr etholiadol swyddogol yn cynnwys blwch i ddatgan eich bod yn Gymry.
“Mae’r gofrestr ar hyn o bryd yn dangos blwch sy’n nodi Prydeiniwr/Prydeinwraig,” esboniodd.
Fe esboniodd fod yr un peth yn wir ar gyfer dogfen basbort y Deyrnas Gyfunol.
Am hynny, mae’n galw ar Gynghorwyr Gwynedd i gefnogi’i chais i lobïo San Steffan gan gysylltu â’r Gweinidog dros Ddiwygio Cyfansoddiadol a’r Ysgrifennydd Seneddol, John Penrose AS i wthio am y newid hwn.
‘Hynafol’
“Mae pob cartref yng Ngwynedd wedi derbyn ffurflen ymholiad etholiadol yn ddiweddar, ac ar y ffurflen honno nid oes unrhyw ffordd i Gymro na Chymraes sy’n dymuno nodi eu hunaniaeth Gymreig,” esboniodd Elin Walker-Jones.
Mae’r ffurflen yn cael ei hanfon i bob cartref gan eu hawdurdod lleol, ond mae’r drefn statudol yn cael ei rheoli gan Lywodraeth San Steffan.
“Mae’r weithdrefn hon yn hynafol. Rydym yn byw mewn democratiaeth yn yr 21ain ganrif, ac mae gennym ni hefyd, erbyn hyn, Lywodraeth ein hunain yng Nghaerdydd sy’n gweithio ar ran pobl Cymru. Dylen ni hefyd gael y cyfle i gael ein hadnabod fel unigolion Cymreig.”
Er hyn, nododd ei bod hi’n falch gweld cyfle i nodi llinach a hunaniaeth Gymreig ar ffurflen Cyfrifiad 2011, ac fe ddywedodd “y dylai holl ddogfennaeth swyddogol eraill a chronfeydd data’r Llywodraeth ddilyn yr un trywydd.”
‘Israddol’
Roedd Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru, Arfon, hefyd yn cytuno, a dywedodd:
“Dwi’n synnu’n fawr nad yw’r Llywodraeth wedi parhau i wthio’r cynnydd yn ei flaen – a byddaf yn galw arnynt i wneud hynny pan fydd y Senedd yn dychwelyd ar ôl y toriad. Byddaf hefyd yn awyddus i holi Cwestiwn Seneddol ar y mater.”
“Rydym yn cael ein gwneud i deimlo’n israddol yn ein gwlad ein hunain,” ychwanegodd Elin Walker-Jones
“Mae gennym hyder yn ein cenedl, ein llywodraethu yn lleol ac yn genedlaethol. Mae’n bryd bod y sefydliad yn dangos y parch dyledus i ni,” ategodd Elin Walker-Jones.