Jonathan Thomas
Mae cyn-flaenasgellwr Cymru Jonathan Thomas wedi dweud bod angen i chwaraewyr rygbi gael addysg lawn ar beryglon cyfergyd ac anafiadau pen.
Fe fu’n rhaid i’r chwaraewr 32 oed ymddeol o’r gamp fis diwethaf ar ôl cael diagnosis o epilepsi, gyda doctoriaid yn dweud fod y cyflwr mwyaf tebyg wedi cael ei achosi gan sawl clec i’w ben yn ystod ei yrfa.
Wrth ymddeol fe ddywedodd Jonathan Thomas ei fod yn gobeithio helpu gydag elusennau fyddai’n codi ymwybyddiaeth o’r peryglon.
Rhybuddiodd hefyd bod cael eich taro’n ddiymadferth yn well i’r corff a dweud y gwir na chael clec i’r pen ond gallu parhau i chwarae.
‘Methu cofio fy rôl i’
Mae cyfergydion wedi dod i sylw rygbi’r byd yn ddiweddar, gydag anafiadau i chwaraewyr Cymru fel George North ac yn fwy diweddar Liam Williams, ac mae World Rugby eisoes wedi tynhau eu rheolau nhw.
Mewn cyfweliad â’r Guardian, mae Jonathan Thomas wedi trafod rhai o’r anafiadau a gafodd e yn ystod ei yrfa y dylai fod wedi delio â nhw’n wahanol.
“Dw i wedi bod yn euog o aros ar y cae ar bob cyfrif,” cyfaddefodd Jonathan Thomas.
“Mae’n feddylfryd sydd yn anodd ei newid. Mae angen meddylfryd fel yna arnoch chi fel chwaraewr proffesiynol er mwyn chwarae er gwaethaf man anafiadau, ond petawn i’n gwybod bryd hynny beth rydw i bellach am anafiadau i’r pen, fe fydden i wedi trin sawl sefyllfa yn wahanol.”
Mewn un gêm rhwng Caerwrangon a Chaerloyw fe gafodd Thomas glec i’w ben ar ôl pum munud, ond fe arhosodd ar y cae tan hanner amser.
“Doeddwn i methu cofio galwadau’r lein na hyd yn oed fy rôl i yn y tîm. Roeddwn i’n cael flashbacks deja vu-aidd.
“Yn ystod yr egwyl roeddwn i’n teimlo’n sâl ac fe ddes i bant. Am dair wythnos wedyn roeddwn i’n methu fy mhrofion i gael dychwelyd i chwarae.”
Rhybudd
Yn ôl Thomas, sydd wedi chwarae i Abertawe, y Gweilch a Chaerwrangon yn ogystal ag ennill 67 cap dros Gymru, mae angen rhybuddio am y peryglon.
“Mae chwaraewyr angen cael eu haddysgu am y peryglon o chwarae ar ol cael anafiadau pen. Maen nhw’n cymryd clec i’r pen a meddwl ‘fe wnâi chwarae ‘mlaen gan fod gen i ddau ddiwrnod bant ar ôl y gêm’. Mae hynny’n gwneud niwed mawr,” meddai Jonathan Thomas.
“Dw i ddim yn golygu cyfergydion … mae e’n amlwg pan chi’n cael eich taro’n ddiymadferth ac yn cael eich cludo bant. [Dw i’n sôn am] y cleciadau chi’n cael pen-wrth-ben neu pan mae cefn eich pen yn taro’r llawr a chi’n cario ‘mlaen er eich bod chi’n gwybod bod rhywbeth o’i le.
“Roedd digwyddiad George North gyda Northampton yn edrych yn ofnadwy. Ond pan mae hynny’n digwydd mae’r ymennydd yn cau lawr a chi’n cael cyfnod o adfer.
“Fe ddywedodd yr ymgynghorydd weithiodd ar fy epilepsi i fod cael eich taro yn ddiymadferth ddim mor ddrwg a pharhau i chwarae gydag ergyd.”