Mae blaenasgellwr Awstralia Michael Hooper wedi cael ei wahardd o’r gêm yn erbyn Cymru dydd Sadwrn.
Cafodd y chwaraewr ei gosbi am drosedd yn erbyn Mike Brown yn ystod eu buddugoliaeth dros Loegr, ac fe fydd nawr yn cael gwaharddiad o wythnos.
Dywedodd World Rugby fod Hooper wedi cyfaddef i chwarae troseddol, sef mynd mewn i ryc neu sgarmes symudol heb ddefnyddio breichiau neu afael mewn chwaraewr, yn y gêm nos Sadwrn.
Mae’n ychwanegu at broblemau Awstralia, sydd eisoes yn pryderu dros ffitrwydd y cefnwr Israel Folau a’r asgellwr Rob Horne.
Mae Cymru ac Awstralia eisoes wedi sicrhau eu lle yn rownd wyth olaf y gystadleuaeth, ac fe fydd enillydd yr ornest dydd Sadwrn yn ennill y grŵp.
Byddai ennill y grŵp mwy na thebyg yn golygu wynebu’r Alban yn y rownd nesaf, ond fe fyddai dod yn ail yn debygol o olygu gornest yn erbyn De Affrica yn y chwarteri ac yna Seland Newydd yn y rownd gynderfynol.