Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru
Mae’r Prif Weinidog yn San Steffan wedi cyhuddo Prif Weinidog Cymru o “chwarae â gwleidyddiaeth” mewn ffrae am bwerau’r Cynulliad cyn yr etholiadau ym mis Mai.
Yn ôl Carwyn Jones, gallai cynlluniau llywodraeth y Deyrnas Unedig leihau pwerau’r Cynulliad, ond mae David Cameron wedi wfftio ei sylwadau.
Dywedodd David Cameron fod ei lywodraeth wedi cytuno i ddiogelu cyllid i lywodraeth Cymru drwy roi isafswm gwariant yn y fformiwla sy’n penderfynu faint o arian caiff pob gwlad yn y DU gan y llywodraeth.
Mae disgwyl iddo gyhoeddi manylion am y fformiwla hon – fformiwla Barnett – y mis nesa’.
Addewid
Ar ôl y refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban llynedd, addawodd David Cameron y byddai’n rhoi “mwy o lais i bobl Cymru”.
Stephen Crabb yn amau y daw cytundeb Ond mae Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb yn ansicr y gall ei blaid gyrraedd cytundeb ar y cam nesaf o ddatganoli â gweinidogion Cymru.
“Mae gofyn am gytundeb, ac rydym wedi bod yn siarad â phleidiau eraill yng Nghymru,” meddai David Cameron.
“Mae angen cytuno ar fesur ond dylai hynny ddim rhwystro beth fydden ni’n ei alw’n “datganoli go iawn” sef rhoi mwy o bŵer i bobl Cymru dros eu bywydau.
“Rydym wedi torri trethi i bobl yng Nghymru, rydym yn awyddus i bobl Cymru allu perchen ar eu tai eu hunain, i gael mwy o bŵer dros eu bywydau, felly bydd hynny’n parhau wrth i’r gwleidyddion barhau i siarad.”
Mae disgwyl i lywodraeth y DU gyhoeddi cynlluniau drafft y mis hwn i newid y ffordd mae datganoli yn gweithio er mwyn ei gwneud hi’n fwy eglur pwy sydd â chyfrifoldeb dros beth.
Ond mae Carwyn Jones wedi awgrymu y gallai’r cynigion troi datganoli yn ôl a rhoi llai o bwerau i bobl Cymru.
“Dwi ddim yn derbyn hynny o gwbl, felly dyma’r prif weinidog (yng Nghymru) yn chwarae â gwleidyddiaeth,” meddai David Cameron.
“Rwy’n meddwl bod gan fy llywodraeth i enw da o ran ehangu pwerau i’r Cynulliad yng Nghymru.”