Ni ddylai ysgolion meddygol Cymru dderbyn nifer penodol o fyfyrwyr o gefn gwlad Cymru bob blwyddyn, yn ôl Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
Awgrymodd y byddai gosod “cwotâu” tebyg ar brifysgolion yn arwain at ostwng safonau doctoriaid yn y dyfodol.
Rhybuddiodd hefyd am y “perygl” y gallai disgyblion Safon Uwch sy’n derbyn canlyniadau isel gael y flaenoriaeth ar draul ymgeiswyr eraill.
Prinder meddygon teulu
Daw’r cyhoeddiad yng nghanol pryder difrifol ynghylch nifer y meddygon teulu yn rhai o ardaloedd gwledig Cymru.
Yn Nwyfor, mae bron i hanner y meddygon teulu dros 55 oed ac mae disgwyl iddyn nhw ymddeol o fewn y pum mlynedd nesaf.
Mae Plaid Cymru’n galw am osod cwota ar brifysgolion Cymru, fel eu bod yn derbyn nifer penodol o fyfyrwyr bob blwyddyn.
Yn ôl y Blaid, 40% o lefydd yn ysgolion meddygol Cymru sy’n cael eu llenwi gan fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod myfyrwyr yn fwy tebygol o aros mewn ardal lle gwnaethon nhw astudio ar ôl iddyn nhw gymhwyso.
Mae cwotâu eisoes yn bodoli yn yr Unol Daleithiau ac Awstralia.
‘Safon yn cwympo?’
Wrth drafod y cynlluniau arfaethedig i Gymru, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Onid yw hwnna’n creu’r perygl o’r safon yn cwympo?
“Os ydych chi’n dweud bod yna un grŵp o bobol a dylen nhw gael ryw fath o ffordd arbennig mewn i ysgol feddygol, mae hwnna’n meddwl y gall rhai eraill wneud yn well ynglŷn â Lefel A sydd ddim yn cael y cyfle a dyna ydi’r perygl.”
Gwneud yn siŵr bod cyfleoedd ar gael i bobol weithio yng nghefn gwlad yw’r ffordd i gynyddu nifer o feddygon teulu, meddai.
“Y ffordd o wneud hwn yw sicrhau bod yna ffyrdd gwahanol o weithio fel meddyg teulu ar gael mewn sawl rhan o Gymru, nid dim ond un model sef y model contractio,” meddai.
“Mae hwnna’n fodel sydd ddim mor eang â beth oedd yn wir o’r blaen.”
Stori: Gareth Pennant