Mae mwy na miliwn o geir yng ngwledydd Prydain wedi cael eu heffeithio gan sgandal allyriadau disel Volkswagen.

Daeth cadarnhad o’r ffigwr gan y cwmni ceir o’r Almaen, sy’n dweud y byddan nhw’n rhoi gwybod i gwsmeriaid sut i wirio’u ceir yn sgil yr helynt.

Mae 508,276 o geir Volkswagen wedi cael eu heffeithio, ynghyd â 393,450 o geir Audi, 76,773 o geir Seat, 131,569 o geir Skoda a 79,838 o geir masnachol Volkswagen.

Mae 11 miliwn o geir wedi’u heffeithio ar draws y byd.

Mae’r sgandal wedi arwain at ymddiswyddiad prif weithredwr y cwmni, Martin Winterkorn.