Mae Estyn wedi lansio ymgynghoriad yn gofyn i’r cyhoedd sut y dylid mynd ati i arolygu ysgolion yng Nghymru.

Fe fydd y mudiad yn ceisio barn rhieni, athrawon a disgyblion dros gyfnod o chwe wythnos ar ffurf holiadur a grwpiau trafod.

Mae dau holiadur wedi cael eu llunio – un i oedolion a’r llall i blant – a’r gobaith yw mynd ati i gyflwyno unrhyw newidiadau i’r drefn bresennol erbyn 2017.

Ar hyn o bryd, mae arolygwyr yn ymweld ag  ysgolion o leiaf unwaith bob chwe blynedd yn dilyn cyfnod rhybudd o bedair wythnos.

Mae ymgynghoriad Estyn yn rhoi sylw arbennig i ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, ysgolion ffederal, ysgolion arbennig, unedau cyfeirio disgyblion, ysgolion annibynnol, sefydliadau addysg bellach, addysg oedolion a dysgu yn y gweithle.

Trefn newydd

Cafodd y drefn bresennol ei chyflwyno yn 2010 a’i hadolygu’r llynedd er mwyn adlewyrchu newidiadau diweddar ym maes addysg.

Cafodd adborth positif am y drefn newydd ei roi yn 2012, a phenderfynodd Estyn a Llywodraeth Cymru yn 2013 y dylid adolygu pa mor gyson y mae arolygiadau’n cael eu cynnal, ynghyd â’r cyfnod rhybudd o bedair wythnos.

Mae dwy ffordd o gyflwyno barn am y drefn arolygu.

Mae modd ymateb i holiadur drwy fynd i www.estyn.llyw.cymru/ymgynghoriad, lle mae holiadur ar wahân ar gyfer plant, neu mae modd argraffu’r holiadur a’i ddychwelyd i: Swyddog Ymgynghoriad Estyn, Llys yr Angor, Ffordd Keen, Caerdydd, CF24 5JW.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno barn yw Tachwedd 11.