Mae Cyngor Powys wedi cymeradwyo argymhellion adroddiad i lunio achos busnes i sefydlu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg gyntaf yng ngogledd y sir.

Bydd yr achos busnes yn cael ei lunio gan swyddogion y sir erbyn mis Mawrth 2016.

Bydd y cabinet wedyn yn penderfynu os ydyn nhw am fynd ymlaen â sefydlu ysgol uwchradd gwbl Gymraeg yn y sir.

Powys yw un o’r ychydig siroedd yng Nghymru sydd heb ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd.

Yn hytrach, mae addysg Gymraeg yn cael ei ddarparu drwy gyfrwng chwech o ysgolion uwchradd dwy ffrwd.

Mae ymgyrchwyr wedi bod yn ymgyrchu’n frwd ers blynyddoedd i sicrhau ysgol uwchradd Gymraeg o fewn y sir, tra bo eraill yn credu bod ysgolion dwy ffrwd yn adlewyrchu natur y sir yn well.

‘Cam yn nes’

Mudiad sydd wedi bod yn ymgyrchu dros sefydlu ysgol Gymraeg (categori 2A) yno yw RhAG (Rhieni dros Addysg Gymraeg).

“Nid yw’r drefn fel y mae yn darparu cyfleoedd cyfartal i ddisgyblion Powys dderbyn addysg uwchradd gyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai Ceri Owen ar ran aelodau RhAG ym Mhowys.

“Mae angen gweledigaeth yr un mor bellgyrhaeddol o safbwynt addysg Gymraeg ag sy’n cael ei roi i addysg Saesneg.”

Ac maen nhw wedi croesawu’r penderfyniad gan y cyngor prynhawn ‘ma gan ddweud ei god yn “gam yn nes at ddatblygiad hanesyddol mewn perthynas ag Addysg Gymraeg ym Mhowys”.

‘Dylai Powys fod ar flaen y gad’

Ond mae ymgyrchwyr iaith yn dweud bod angen i gabinet Cyngor Powys ddangos arweiniad.

Dywedodd Robin Farrar, Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymdeithas: “Mae angen gweledigaeth ar Gyngor Sir Powys – dylent wrando ar yr arbenigwyr ac ymgyrchwyr lleol ym Maldwyn, a gweithredu ar frys.

“Yn hytrach na bod ar ei hôl hi gallai, a dylai, Powys fod ar flaen y gad yn y maes yma. Mae angen mynd ymhellach nag argymhellion tymor-byr yr adroddiad yma, a rhoi cynlluniau pendant i wella’r ddarpariaeth yn ei lle.

“Rydym ni fel mudiad yn falch o gefnogi’r lleisiau lleol o blaid addysg Gymraeg. Yn ein Cyfarfod Cyffredinol dydd Sadwrn, byddwn ni’n trafod cynnig sy’n galw am sefydlu rhwydwaith o ysgolion 2A ym Mhowys ynghyd á chamau eraill i sicrhau bod pobl ifanc y sir yn cael pob cyfle i allu siarad Cymraeg – mae’n sgil hanfodol ar gyfer yr 21ain ganrif.”