Mae dyn 21 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag ymosodiad difrifol yn ardal Tredelerch, Caerdydd.

Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.

Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ ar Ffordd Prestatyn, Tredelerch am tua 10yh ddydd Sul, 30 Awst.

Roedd dyn 19 oed wedi cael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru gydag anafiadau sydd wedi “newid ei fywyd”.

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad â dyn arall, John Wall, 28 oed sydd wedi’i gysylltu â’r digwyddiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru drwy ffonio 101 neu’n ddienw drwy Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 a dyfynnu’r rhif 1500319490.