David Cameron
Mae David Cameron wedi dweud nad yw arweinwyr byd yn agosach at ddod i gytundeb ynglŷn â’r argyfwng yn Syria.
Mae’r Prif Weinidog yn Efrog Newydd ar gyfer cynhadledd y Cenhedloedd Unedig lle mae trafodaethau rhwng gwledydd y Gorllewin a Rwsia ac Iran wedi methu a dod i gytundeb ynglŷn â sut i fynd i’r afael ag eithafwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS).
Wrth siarad â CBS cyn cyfarfod y Cenhedloedd Unedig i drafod sut i ddwysau’r ymgyrch yn erbyn IS, dywedodd y Prif Weinidog mai dyma’r “mater anoddaf” mae wedi’i wynebu.
“Fe wna’i weithio gydag unrhyw un i sicrhau Syria sy’n rhydd o Irac ac IS,” meddai yn dilyn trafodaethau gydag Arlywydd Iran Hassan Rouhani ddoe.
“Ond rydyn ni filltiroedd ar wahân ar hyn o bryd,” ychwanegodd.
Y broblem hyd yn hyn, meddai, oedd bod Rwsia ac Iran wedi gwrthod ystyried Syria heb yr Arlywydd Bashar Assad.
Dywedodd Vladimir Putin, a oedd wedi cwrdd ag Arlywydd yr Unol Daleithiau Barack Obama neithiwr, y byddai’n “gamgymeriad enfawr” i beidio â chynnwys yr Arlywydd Assad.
Ond mae’r Unol Daleithiau, Ffrainc a’r DU wedi mynnu cael sicrhad y bydd Assad yn cael ei ddisodli yn y pendraw.
Dywedodd David Cameron nad yw’r 12 miliwn o bobl sydd wedi ffoi o’u cartrefi yn dychwelyd os yw Assad yn parhau i reoli’r wlad.