Bu’n rhaid symud degau o drigolion Bethesda a Beddgelert o’u cartrefi dros nos yn sgil llifogydd sydd wedi bwrw cyflenwad trydan cannoedd o gartrefi.

Fe wnaeth afon Ogwen orlifo mewn gwyntoedd cryfion o hyd at 75m.y.a., ac mae rhybudd melyn mewn grym tan 9 o’r gloch fore heddiw (dydd Mercher, Awst 26).

Mae’r gwasanaethau brys wedi bod yn y ddau le dros nos, a chafodd pobol eu tywys i ganolfan hamdden yn ardal Bethesda, a’u hachub mewn cwch yn ardal Beddgelert.

Mae’r A5 ynghau rhwng Bethesda a Betws y Coed.

Difrod yn y de1px transparent line

Yn y cyfamser, mae rhywfaint o ddifrod i adeiladau yng Nghaerdydd.

Mae pobol yn Stryd yr Eglwys wedi’u symud oddi yno am rai oriau oherwydd y gwyntoedd cryfion.

A chafodd sawl eiddo ac adeilad busnes eu difrodi wrth i goed gwympo.