Mae Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru wedi gwarchod 75,000 o swyddi yng Nghymru, yn ôl Ken Skates, Gweinidog yr Economi.

Hyd yn hyn, mae dros 12,500 o fusnesau wedi derbyn cymorth ariannol gwerth dros £280m.

Un o’r rhain yw cwmni Mono Equipment sy’n cynhyrchu offer pobi proffesiynol.

Mae’r cwmni o Abertawe yn cyflenwi Marks and Spencer, Sainsbury’s a Greggs.

Derbyniodd y cwmni £108,000 gan gronfa Llywodraeth Cymru er mwyn gwarchod swyddi.

‘Diogeli swyddi lleol’

“Drwy gydol yr argyfwng, rydyn ni wedi bod yn glir fod angen i fusnesau o safon uchel sy’n ffynnu barhau i fod yn fusnesau o safon uchel sy’n ffynnu pan fydd y pandemig drosodd,” meddai Ken Skates.

“Mae Mono Equipment yn union y math yna o fusnes, a dwi’n falch iawn ein bod wedi gallu rhoi’r cymorth hanfodol yr oedden nhw ei angen, ar yr union adeg roedden nhw ei angen fwyaf, wnaeth yn ei dro eu galluogi nhw i ddiogelu swyddi lleol.

“Byddwn yn parhau i wneud popeth allwn ni i warchod swyddi a helpu busnesau i ffynnu wrth inni ddod allan o’r argyfwng hwn.”

O ganlyniad i’r gronfa werth £500m, Cymru yw’r wlad sydd wedi gweld y ganran uchaf o fusnesau sy’n gwneud cais am gymorth ar gyfer y coronafeirws.

Eglurodd Andrew Jones, rheolwr gyfarwyddwr Mono Equipment, fod y cymorth gan y gronfa wedi bod o gymorth mawr i’r busnes.

“Pan oedd y pandemig ar ei waethaf, bu gostyngiad o dros 60%, ac er ein bod wedi gweld adferiad cyson o’r cyfnod gwaethaf, mae’r refeniw yn parhau i fod llawer is na’r lefel arferol”, meddai.

“Gyda’r cymorth a’r gefnogaeth a gafwyd, rydyn ni wedi gallu cadw’r mwyafrif llethol o’n gweithlu.

“Heb gymorth gan y llywodraeth, ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl.”