Mae cynnydd sylweddol wedi bod yng nghanlyniadau TGAU eleni yn dilyn tro pedol oedd yn golygu bod graddau’n seiliedig ar asesiadau athrawon wedi i’r arholiadau gael eu canslo yn sgil y coronafeirws.

Roedd cannoedd ar filoedd o fyfyrwyr wedi derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw (dydd Ia, Awst 20).

Yn ol Cymwysterdau Cymru roedd 25.9% o fyfyrwyr wedi derbyn graddau A* ac A o’i gymharu a 18.4% yn 2019.

Roedd 99% wedi pasio’u harholiadau.

Roedd 74.5% wedi derbyn graddau A* i C, o’i gymharu â 63% y llynedd.

Mae’r canlyniadau hefyd yn dangos bod merched wedi perfformio’n well na bechgyn gyda 30.6% yn cael graddau A* ac A o’i gymharu â 21.2% o fechgyn.

Mae ’na fwlch o hyd ymhlith plant sy’n derbyn cinio ysgol am ddim gan gofnodi graddau is ar gyfartaledd.

Fe fu beirniadaeth chwyrn o’r fformiwla gafodd ei ddefnyddio i asesu graddau Safon Uwch wythnos ddiwethaf gan arwain at dro pedol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Safon Uwch

Mae Cymwysterau Cymru hefyd wedi cyhoeddi canlyniadau diwygiedig Safon Uwch heddiw ar ol iddyn nhw gael eu hasesu gan athrawon. Mae’n dangos bod safon y graddau hefyd yn “sylweddol uwch” na’r canlyniadau gafodd eu cyhoeddi wythnos ddiwethaf ac yn y blynyddoedd diwethaf.

Ar hyn o bryd mae’n ymddangos bod 41.3% wedi derbyn graddau A* i A, o’i gymharu a 29.9% pan gafodd y canlyniadau eu cyhoeddi ar Awst 13, a 27% yn 2019, meddai llefarydd ar ran Cymwysterau Cymru.

Mae’n debyg na fydd tua 200,000 o fyfyrwyr oedd yn astudio ar gyfer cymhwyster Btec yn derbyn eu canlyniadau heddiw yn dilyn adolygiad munud olaf o’r graddau.